Ydych chi’n arweinydd angerddol sydd â gweledigaeth glir dros ddyfodol y Gymraeg yn y gymuned?

Mae Menter Iaith Sir Caerffili yn chwilio am Brif Swyddog deinamig ac ysbrydoledig i arwain y Fenter i’w cham nesaf o ddatblygiad. Erbyn hyn mae’r Fenter yn fudiad blaenllaw yn y rhanbarth yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cyfrwng Cymraeg, cyfleoedd yn y gymuned i ddefnyddio’r Gymraeg, yn cyflogi dros 65 aelod o staff gyda throsiant o dros £1 miliwn. Bydd y swydd yn cynnig cyfle cyffrous i lunio, datblygu a chyflawni gwaith strategol sy’n cynyddu defnydd a phroffil y Gymraeg ar draws cymunedau Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

  • Arwain a rheoli’r Fenter yn strategol a gweithredol
  • Rheoli a chefnogi staff, cyllidebau a llywodraethiant
  • Datblygu a chadw partneriaethau cryf ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
  • Sicrhau cyllid a chodi proffil y Fenter
  • Grymuso cymunedau i fyw, gweithio a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg

Gofynnir am:

  • Brofiad o arwain prosiect, rhaglen, tîm neu fudiad ar lefel uwch
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg
  • Dealltwriaeth o ddatblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol
  • Y gallu i weithio’n annibynnol ac yn strategol

Lleoliad: Swyddfa’r Fenter yn Ystrad Mynach ond fe fydd yn ofynnol i deithio ar draws cymunedau Bwrdeistref Sirol Caerffili gyda chyfle i weithio o adref hefyd.

Oriau: 37 yr wythnos (hyblygrwydd yn ofynnol)

Os oes gennych y weledigaeth, y brwdfrydedd a’r sgiliau i wneud gwahaniaeth go iawn i ddyfodol y Gymraeg yn Sir Caerffili, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.  Os ydych chi am sgwrs anffurfiol am y swydd, ffoniwch Lowri Jones ar 01443 820913 neu ebostiwch lowrijones@mentercaerffili.cymru.

Dylech ddychwelyd y Ffurflen Gais ynghyd â’ch CV mwyaf cyfredol erbyn 5pm ar Fai 24ain i lowrijones@mentercaerffili.cymru.

Cyfweliadau: Mehefin 1af a'r 2ail yn swyddfa Menter Caerffili, Ystrad Mynach, CF82 7EH

Swydd Ddisgrifiad

Ffurflen Gais