Ffiliffest 2026 - Mehefin 6ed

Gŵyl flynyddol yw Ffiliffest a gafodd ei sefydlu yn gan Menter Caerffili er mwyn Dathlu Cymreictod, diwylliant a threftadaeth yr ardal. Diwrnod o hwyl ar  ail benwythnos mis Mehefin a gynhelir ar Gaeau Owain Glyndŵr yn nhref Caerffili yw Ffiliffest. Ceir cyfle i’r teulu gyfan mwynhau amrywiaeth o weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg sy’n addas i bob oedran gan gynnwys cerddoriaeth fyw, gweithdai celf a chrefft a chwaraeon, stondinau gyda busnesau lleol yn gwerthu eu cynnyrch, plant yr ardal yn dawnsio gwerin fel rhan o ddathliad Dawnsio drwy’r Cwm. Trefnir yr ŵyl mewn partneriaeth â nifer o bartneriaid gan gynnwys Cyngor B.S.Caerffili, Cyngor Celfyddydau Cymru, Head4Arts, Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant,  Merched y Wawr, Papur Bro CwmNi a nifer o fudiadau cymunedol eraill.

Eleni am y tro cyntaf, byddwn ni hefyd yn rhedeg gig nos Wener a nifer o ddigwyddiadau ffrinj - felly edrychwch allan am y manylion!