Datganiad Cenhadaeth
Hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar lefel gymunedol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, gan sicrhau bod yr iaith yn dod yn rhan ganolog o fywyd y sir a bod cymunedau yn rhannu’r cyfrifoldeb am ei dyfodol a’i ddatblygiad.
Cefndir
Sefydlwyd Menter Sir Caerffili ym mis Rhagfyr 1999, gyda’r nod o hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg ym Mwrdeistref Sirol Caerffili drwy greu cyfleoedd a gwasanaethau i drigolion y sir ddefnyddio’r iaith o fewn eu cymunedau lleol. Mae Menter Sir Caerffili yn Elusen Gofrestredig (1105172) ac yn Gwmni Cyfyngedig drwy warrant (5096968).
Mae’r Fenter yn weithgar yn y meysydd isod:
- Cynlluniau Gofal cyn ysgol, ar ôl ysgol, yn ystod y gwyliau a chynlluniau cofleidiol drwy’r Gymraeg
- Gweithdai amrywiol i blant yn ystod gwyliau’r ysgol
- Cyfleoedd wythnosol, penwythnosol ac yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol i bobl ifanc drwy’r Gymraeg
- Gweithgareddau cymdeithasol i Ddysgwyr gan gynnwys boreau coffi, Sadyrnau Siarad a chlybiau darllen
- Cyfleoedd Cymdeithasol i Deuluoedd
- Gweithdai dysgu anffurfiol wythnosol ac undydd i Oedolion
- Ffiliffest – Gŵyl Haf Cymraeg
- Ffair Nadolig blynyddol
- Cydlynu Fforwm Iaith Sir Caerffili
- Darparu gwasanaethau cyngor a gwybodaeth iechyd i blant a phobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg
- Cefnogi ac annog darparwyr gofal plant i ddefnyddio’r Gymraeg
- Cyswllt Cymraeg ar sawl pwyllgor yn y sector gwirfoddol, preifat a chyhoeddus
- Rydym yn darparu ein gwasanaethau drwy weithio mewn partneriaeth gyda nifer helaeth o fudiadau Cymraeg Sir Caerffili yn ogystal â phartneriaid di-Gymraeg y Sir gan gynnwys Cyngor B.S. Caerffili, Urdd
- Gobaith Cymru, Mudiad Meithrin, Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent, Merched y Wawr, CADW, ysgolion a cholegau, busnesau lleol ac eraill
- Rhai o brif bartneriaid Menter Sir Caerffili yw Llywodraeth Cymru a Chyngor B.S. Caerffili sy’n gyfrifol am ariannu rhai o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig drwy’r Gymraeg yn y Sir.
Cyfarwyddwyr y Cwmni ac Ymddiriedolwyr yr Elusen
Jeff Grenfell – Cadeirydd
David Thomas
Gwyneth Davies
Anwen Cullinane – Aelod Cyfetholedig
Jobe Bruzas
Samantha Jarrett
Huw Rowlands
Llinos Neale
Lois Roberts
Geraint Ashton
Ysgrifennydd y Cwmni: Lowri Jones