Mae Menter Iaith Sir Caerffili yn darparu amrywiaeth o ofal plant cyfrwng Cymraeg o safon uchel gan gynnwys gofal ar ôl ysgol, yn ystod y gwyliau ysgol a gofal cofleidiol ar gyfer plant oedran dosbarth meithrin. Rydym wedi cofrestru’r cynlluniau gyda AGC gyda staff profiadol a chymwys yn darparu’r gofal. Gall plant ymlacio, gwneud gwaith cartref neu cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau addysgol a symbylol. Rydym yn cynnig byrbrydau iachus ac mae’n cynlluniau i gyd wedi derbyn Gwobr Byrbryd Iachus Cyngor B.S.Caerffili. Maent hefyd wedi derbyn Marc Ansawdd Caerffili ac rydym yn gweithio’n agos â Thim Blynyddoedd Cynnar Cyngor B.S.Caerffili wrth ddatblygu a rheoli’r ddarpariaeth.
Erbyn hyn mae Menter Caerffili yn darparu gofal cofleidiol yn ystod y diwrnod ysgol i blant sy’n mynychu dosbarth meithrin rhan amser o fewn 6 ysgol. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnig gofal rhan amser i blant cyn neu ar ôl iddynt fynychu dosbarth meithrin rhan amser o fewn yr ysgol. Mae’r ddarpariaeth yn cynnig gofal o ansawdd uchel sy’n cefnogi’r addysg rhan amser mae’r plant yn derbyn wrth sicrhau fod y plant yn medru aros o fewn yr ysgol mewn awyrgylch symbylol a chefnogol am ddiwrnod cyfan.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Rheolwr Busnes Gofal Plant y Fenter Tracy Reeves – Ebost Tracy Reeves / 01443 820913.