Prosiect Ieuenctid Sir Caerffili

Mae Menter Sir Caerffili, Urdd Gobaith Cymru a Chyngor B.S. Caerffili yn cyd-ariannu a chyd-reoli Prosiect Ieuenctid cyfrwng Cymraeg ar gyfer pobl ifanc y Sir. Cyflogir Swyddog Ieuenctid llawn amser, sydd wedi ei leoli yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Mae’r Swyddog yn gyfrifol am ddatblygu cyfleoedd a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer pobl ifanc ar draws y sir tu allan i oriau ysgol ac yn ystod y gwyliau ysgol.  Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys teithiau, clybiau chwaraeon a diddordeb yn ogystal â’r clybiau wythnosol canlynol:

Manylion cysylltu y Swyddog Ieuectid: louiserees@urdd.org

Mae Menter Iaith Sir Caerffili hefyd yn trefnu nifer o weithgareddau a chyfleoedd i bobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg yn cynnwys gweithdai, clybiau gemau fideo wythnosol, cyfleoedd i wirfoddoli a theithiau amrywiol.

Sesiwn Gemau Fideo Uwchradd

Cyfle i chwarae amrywiaeth o gemau fideo.

Pris: £5

Sesiwn Gemau Fideo Cynradd

Sesiwn hwyl yn chwarae gemau fideo amrywiol

Pris: £5

Sesiynau Sgwrs

Cyfle i gwrdd a siaradwyr a dysgwyr Cymraeg eraill - croeso cynnes i bawb

Pris: Am Ddim

Clwb Cerdded

Dewch i fwynhau teithiau cerdded amrywiol bob bore Mercher gyda dysgwyr a siaradwyr Cymraeg eraill.

Pris: Am Ddim