Y Parchedig David Williams (Pwllypant)

1709-1785

Na, nid y David Williams a rhoddodd ei enw i’r parc hyfryd hwnnw yng Nghaerffili   Nage, athro ar y David Williams hwnnw sydd gennym yma.  Rhoddir yr enw ‘Pwllypant’ wrth ei enw i wahaniaethu rhyngddo a’i ddisgybl enwog ac oherwydd mai cartref y teulu oedd Tŷ Pwllypant. Rhoddwyd yr enwau “Cedar Tree” a chyn hynny'r “Corbetts’ Club” o bryd i’w gilydd ond fe’i adwaenir bellach fel y “Toby Carvery”.

Yn wir bedyddiwyd y tŷ yn ‘Corbett’s Club’ am i un o ddisgynyddion y Parchedig  David Williams rhoi hen gartref ei deulu yn anrheg i’r Ardalydd Bute  –  cymaint oedd ei edmygedd o’r gŵr cyfoethog iawn hwnnw!  Defnyddiodd yr Ardalydd y tŷ ym Mhwllypant wedyn fel lle y gallai ei asiant fyw ynddo ac, mae’n debyg fod gŵr o’r enw Corbett yn un o’r rheiny.

 Daeth Williams yn weithgar fel rhan o’r mudiadau a sefydlwyd yn dilyn y rhyddid i addoli a gafwyd yn sgîl y Toleration Act 1689. Trefnodd i’r enwog Hywel Harris ymweld â Chaerffili ar deithiau pregethu yn 1738 a 1739. Ac yn 1739 aed ati i adeiladu’r capel annibynnol cyntaf yn yr ardal a hynny yn y Watford. Bu David Williams yn weinidog ffyddlon ar y capel hwnnw am hanner can mlynedd.  Dilynodd capel y Groeswen ychydig yn ddiweddarach yn 1742/43.  Ac er mai Methodistiaid Calfinaidd (Presbyteriaid) oedd honno ar y dechrau daeth yn gapel annibynnol oherwydd, fe gredir, anawsterau ordeinio. Dywedir i weinidogaeth gadarn  David Williams yn y Watford  hefyd fod yn ffactor wrth i ‘r Groeswen droi at  enwad yr annibynwyr.  

 Addysgwyd David Williams yn yr Academi yng Nghaerfyrddin ac mae H.P Richards yn ei gyfrol ddefnyddiol, ‘History of Caerphilly’ yn dweud iddo wedyn gael ei ordeinio yn weinidog Eglwys Annibynnol y Drindod yng Nghaerdydd ac iddo fod yn weinidog diwyd a llwyddiannus.  Bu hefyd wrthi’n sefydlu Ysgolion Cylchynol, yn null Griffith Jones, Llanddowror yn yr ardal hon. Gyda John Thomas, curad Eglwys Gelligaer, aeth ati i drefnu canolfannau pregethu  Dywedir, hefyd, iddo gondemnio’n gryf iawn yr arfer o ymladd ceiliogod gan lawenhau o weld y fath arfer ar drai o gwmpas Caerffili.

  Symudodd i Fferm y Cwm a bu’n cynnal ysgol yno am flynyddoedd lawer. Gellir gweld y fferm hon drwy’r coed, pan nad ydynt yn eu dail, wrth deithio tuag at ben Mynydd Caerffili o Ben Rhos. Gydag ystâd enfawr Castle View ar yr ochr chwith mae’r fferm i’w gweld ychydig ar ôl y troad sy’n arwain tuag at Glwyd y Gurnos (y Black Cock erbyn hyn). Yno addysgwyd David Williams, Waunwaelod, a roddodd ei enw i’r parc sydd yn y dref ac fe sefydlodd y Royal Literary Society. Disgybl arall iddo yno oedd Morgan John Rhys o’r Graddfa yn Llanbradach a sefydlodd “Y Cylchgrawn Cymreig”.

 Un arall fu’n gysylltiedig â’r Parchedig David Williams oedd Williams Edwards, Tŷ Canol. Ef oedd bugail cyntaf yr achos newydd yn y Groeswen, swydd a ddaliodd hyd ei farwolaeth yn 1789. Ond mae’r gŵr hwn, wrth gwrs, yn fwy enwog am adeiladu’r bont enwog ym Mhontypridd.

Mae’n sicr i David Williams gwrdd â phregethwyr enwog anghydffurfiaeth a ymwelodd â’r ardal hon yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif. Mae  H.P Richards yn ei lyfr yn sôn am John Wesley a George Whitfield yn pregethu o gwmpas Caerffili. Byddent yn aros gyda Thomas Price, Watford Fawr (Plas Watford bellach) 

 Un o wir arwyr ein bro, ond un y cafodd llai na’i haeddiant o glod.