Y Gelli-groes

Rheibiwyd cymuned Gelli-groes yng Nghwm Sirhywi gan heolydd a adeiladwyd ers yr adeg yr oedd y fan honno yn un o ganolfannau diwylliedig yr ardal ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rhannwyd y pentrefan gan yr heol sy’n arwain i lawr o Bontllanfraith i Gwmfelinfach ac Ynysddu wrth i honno ddod yn lôn gynyddol bwysig gyda thyfiant trafnidiaeth gyfoes. Ar ben hynny mae’r ffordd ddeuol newydd a adeiladwyd o Faes y Cwmer i Drecelyn yn golygu bod yn rhaid troi  i’r chwith am Bontllanfraith ac yna i’r dde, a theithio o dan yr heol newydd cyn cyrraedd Gelli-groes. Yna, pob cam yn ôl i’r cylchdro, troi i’r dde am Ynysddu ac yna’n syth i’r dde eto am bentref Wylie os am gyrraedd gweddill y pentrefan.

Mae’r hen felin yn dal i fod yno a gwnaed pob ymdrech i gynnal diddordeb y cyhoedd ynddi. Un peth mae’r felin yn enwog amdani yw’r ffaith  i’r melinydd oedd yn byw yno ymddiddori mewn radio pan oedd y dechnoleg hynny yn dechrau dod yn boblogaidd. Ac ef oedd un o’r cyntaf i gael gwybod bod yr Eidal wedi mynd i ryfel yn erbyn Tripoli ym mis Tachwedd 1911. Yno, hefyd y derbyniwyd un  o’r negeseuon brys cyntaf o’r llong y Titanic wedi i honno daro’r  rhewfryn ar ei thaith gyntaf un draw i’r America yn 1912.

Gerllaw'r felin mae crefftwr wedi sefydlu gwaith gwneud canhwyllau. Ganddo ef mae’r allweddau ar gyfer y felin a gellir gwneud trefniadau i ymweld â’r felin ond cysylltu ag e ar 01495 222322.  Tra’i bod yn  werth galw i mewn i weld y mannau hyn mewn gwirionedd, gwir apêl y lle yw ei gysylltiadau hanesyddol.

Cewch weld mwy o hynny os croeswch ar draws yr heol i Ynysddu gan ddilyn y ffordd i fyny mor bell â’r capel bach Methodistiaid ar y dde. Capel Siloh y Presbyteriaid yw hwn a sefydlwyd yn 1813. Yn y fynwent fach yn y blaen mae nifer o’r cerrig beddau yn adrodd eu hanes yn y Gymraeg, awgrym clir o’r iaith a siaradid yma flynyddoedd yn ôl. Yr hyn sydd yr un mor debygol yw i’r bardd Islwyn bregethu yma. Mae’r achos i weld yn ffyniannus ac mae rhifau ffôn y gweinidog a’r swyddogion y tu allan i’r sawl a fyn fwy o wybodaeth.

Roedd yr ardal hon yn dipyn o ganolfan eisteddfodau ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ei draethawd rhagorol ar Aneurin Fardd yn y gyfrol “Ebwy, Rhymni a Sirhywi” mae Dafydd Islwyn yn nodi i eisteddfodau gael eu cynnal ym Medwas, Y Groes-wen, Pontllanfraith, Rhymni,  Sirhywi ac Ystrad Mynach. Hefyd yng Nghaerffili, Coed Duon, Bedwellte, Gelligaer, Gelli-groes a Llanfabon. A chredir mai Gelli-groes ynghyd â’r Groes-wen, Caerffili a Rhymni oedd y canolfannau pwysicaf ar gyfer beirdd.  Bu’r eisteddfod yn arbennig o gryf yno rhwng 1847 ac 1862

 

Man hyfryd iawn yw’r Gelli-groes

Bur eirioes le i bererin

Lle mae Aneurin, prif-fardd Gwent,

A’i dalent fel aur dilin  

  

Ewch ymlaen, wedyn i fyny at dafarn yr Half Way i’r hyn a elwir yn “Upper  Gelligroes”(!) erbyn hyn, sydd yn union cyn y bont sy’n arwain i bentref Wylie.  Cadwodd Aneurin Fardd, y cafwyd gwybodaeth amdano mewn erthygl blaenorol,  dafarn yr Half Way am gyfnod, tafarn oedd yn ganolfan ddiwylliannol y fro tua  chanol y ddeunawfed  ganrif. Yn 1861 agorodd argraffdy yn seler yr Half Way, yn bennaf er mwyn argraffu misolyn ei enwad, Y Bedyddiwr