Thomas Jones C.H.
1870 – 1955
Saif y llythrennau ‘C.H.’ y tu ôl i’r gŵr yma o Rymni am ‘Companion of Honour’ anrhydedd uchel iawn a enillwyd gan grwtyn a adawodd Ysgol Lewis i Fechgyn yn 13½ oed, ac a aeth ati i addysgu ei hun. Derbyniodd y gydnabyddiaeth aruchel hon am godi i uchelfannau llywodraeth y Genedl Unedig a hynny fel Gwas Sifil. Gosodwyd plac ar dalcen y tŷ lle cafodd ei eni, sef rhif cant High Street, Rhymni.
Merch enwocaf T.J. wrth gwrs oedd y Farwnes White o Rymni a oedd, fel Irene White yn Aelod Seneddol dwyrain y Fflint o 1950 i 1970 ac yn Weinidog yn y Swyddfa Gymreig pan sefydlwyd honno gyntaf. Byddai T.J. yn falch o hynny ac yntau’n ddatganolwr o arddeliad a ddefnyddiodd ei ddylanwad sylweddol i hyrwyddo pethau Cymraeg a Chymreig. Mae dyled y genedl yn fawr iddo am berswadio’r Arglwydd Reith, cymeriad di ildio dros ben, os bu un erioed, i sicrhau bod rhanbarth Cymraeg i’r BBC yn nyddiau cyntaf y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig.
T.J., hefyd, sefydlodd Goleg Harlech a’r WEA (Cymdeithas Addysg y Gweithwyr) a bu’n ffigwr amlwg gyda’r Cymrodorion. Ef, yn fwy na neb arall fu’n gyfrifol am y ffaith fod gan Gymru ei Bywgraffiadur Cenedlaethol drwy ddod o hyd i £5,000 gan Ymddiriedolaeth y ‘Pilgrims’ i’r Cymrodorion gael cyhoeddi’r bywgraffiadur cyntaf. Swm sylweddol iawn yn nhri degau’r ganrif ddiwethaf! Gwnaeth hyn am nad oedd yn teimlo y gallai Cymru fod yn wirioneddol yn genedl heblaw ei bod yn meddu ar Fywgraffiadur.
Magwyd “T.J” ar aelwyd Gristnogol a’r teulu’n aelodau yng nghapel Brynhyfryd. Safai’r capel hwn ar ochr dde’r briffordd drwy Rymni wrth deithio i fyny o Bontlotyn, ychydig wedi sgwâr Albion, lle safai rhes o fythynnod Mount Pleasant cyn eu dymchwel yn ystod y saith degau. Edrychai’n debygol, ar un adeg, y byddai T.J. mynd i’r Weinidogaeth. Yn bennaf yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth daeth yn Rhyddfrydwr ar ei ffordd i fod yn ‘rationalist’ a Fabian.
Y diweddar Hubert Morgan o Gaerffili (Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Cwm Rhymni 1990) oedd asiant Irene White pan oedd yn Aelod Seneddol a fe, yn fwy na neb arall, a sicrhaodd fod papurau ei thad yn cael eu cadw yn Llyfrgell y dref yn Rhymni. Mae’r llyfrgell felly’n werth ymweld â hi i ddarllen hanes y gŵr hwn a hefyd astudio papurau’r bardd Idris Davies sydd yn yr un ystafell. Ysgrifennodd ei hunangofiant ac mae’r gyfrol, ‘Rhymney Memories’ sydd yn lyfr diddorol iawn. Os am fwy o sylwedd gweler “T.J. A Life of Thomas Jones, CH. Cabinet Secretary to Four Prime Ministers” tt.553 gan E.L.Ellis Gwasg Prifysgol Cymru.