Tanchwa Senghennydd
Fore’r 14eg o Hydref 1913 rhwygodd wal farwol o dân drwy dwneli ac wynebau glo pwll glo’r Universal yn Senghennydd. Doedd dim byd newydd yn hynny. Roedd poblogaeth y pentref newydd hwn yn hen gyfarwydd â thrychinebau - er nad oedd y gymuned glos eto wedi dathlu’i phen blwydd yn ugain oed. Do, aethpwyd drwy’r torcalon, na ŵyr neb ond trigolion y meysydd glo amdano ddeuddeg mlynedd ynghynt. Yno, yn 1901 lladdwyd 61 o ddynion a bechgyn yn ddiarwybod wrth iddynt lafurio yn y tywyllwch a’r budreddi oedd cymaint rhan o’u bywydau beunyddiol.
Mae cofeb i danchwa Senghennydd (1901 a 1913) ym mynwent Penyrheol. Mae mwy o’r rhai a fu farw wedi’u claddu ym Mhenyrheol ac Eglwys Ilan nag mewn unrhyw le arall.
Faint oedd wedi trengi y tro yma? A pam oedd hyn wedi digwydd drachefn wedi’r ymchwiliad a’r addewidion a gafwyd yn ystod ail flwyddyn y ganrif newydd? Daeth yr ateb i’r cwestiwn cyntaf yn oeraidd amlwg ymhen bach iawn o amser. Daeth yr ystadegau moel, dideimlad i ymwybyddiaeth y genedl a’r byd: roedd 439 o ddynion a bechgyn wedi darfod ym mlodau eu dyddiau. Roedd y ffigyrau hyd yn oed yn waeth na’r disgwyl. Roedd darogan y byddai’r gyflafan yn eithafol pan welwyd bod yr offer weindio ar ben y pwll wedi’i chwalu a’i daflu i fyny i’r awyr fel corcyn yn saethu allan o botel bop wed’i siglo’n ddidrugaredd.
Ond beth oedd yr ateb i’r ail gwestiwn? Pam oedd hyn wedi digwydd eilwaith? Gwyddys bod nwyon peryglus iawn yn yr Universal, hyd yn oed yn fwy tanllyd na’r rhai a gaed fel arfer mewn glofeydd. Dangosodd yr archwiliad i mewn i drychineb 1901 mai’r hyn a wnaeth pethau’n waeth oedd y llwch yn yr awyr. Achoswyd mwy na mwy o lwch am fod tramiau’n cael ei gorlenwi, a’r glo oedd yn sarnu oddi ar y tramiau yn cael ei chwalu dan olwynion haearn y tramiau, gan lenwi’r awyr â llwch du. Roedd hyn, wrth gwrs, yn cyfrannu’n sylweddol at salwch yn ysgyfaint y gweithwyr yn ogystal â bod yn fodd o wneud unrhyw danchwa cymaint yn fwy difrifol.
Argymhellwyd y dylid gosod ochrau uwch i’r tramiau ond ni fu unrhyw frys i weithredu ar yr argymhellion - yn wir, bach iawn a wnaed yn ystod y deuddeng mlynedd - ond dyna ni, dim ond bywydau pobl gyffredin oedd yn y fantol!
Ni ellir amgyffred â maint y galar a’r dioddefaint. Ond bu i’r diweddar John Brown, yn ei gyfrol wych, TheValley of the Shadow, geisio darlunio a mesur maint y golled drwy ddangos y nifer o fywydau a gollwyd mewn strydoedd unigol; sut bu i ambell fam nid yn unig golli gŵr a mab ond hefyd iddi orfod galaru dros golli brawd neu frawd yng nghyfraith a neiaint; ac yna geisio amgyffred, ar ben hynny, ar gladdu cymdogion a chyfeillion. Mae’n dda nodi i ferch John Brown ganiatáu i’r Gymdeithas Hanes ail argraffu’r llyfr wedi i gopïau’r argraffiad cyntaf fynd yn brin iawn.
Da o beth yw bod gwasanaethau coffa pob blwyddyn ym mynwent Penyrheol ac wrth y gofeb yn Senghennydd. A bod plant ysgol ymhlith y rhai sy’n cofio’r trychinebau - plant sydd bellach o’r braidd yn gwybod beth yw cnepyn o lo heb sôn am gynhesu’u hun o flaen tanllwyth o dân!