T.J. Harris, Rhymni 

 (1909 - 1999)

 

Mewn sawl ardal o Gymru mae pobl ifanc yn cael eu trochi’n llwyr yn ein diwylliant cenedlaethol. Dysgant hwiangerdd a cherddi cyn gadael y crud ac yna cânt eu trwytho yn niwylliant eu cenedl mewn eisteddfodau, Ysgol Sul a chymdeithasau diwylliannol. Does ryfedd bod cymaint o feirdd a llenorion yn dod o’r ardaloedd hynny.

Ond beth am grotyn yn cael ei fagu yng ngogledd Sir Fynwy cyn y Rhyfel Byd Cyntaf? Pa draddodiad, pa gefndir pa ddisgwyliadau oedd yn bod? Yn sicr, ni allai bardd neu lenor ifanc dderbyn gwell magwrfa'r adeg honno yng Ngwent nag yn nhref Rhymni. Llwyddodd yr ardal honno gynnal yr iaith, y diwylliant a chrefydd anghydffurfiol lawer blwyddyn wedi i ardaloedd cyfagos eu colli yn llwyr.  A dyna fu hanes y bardd Thomas John Harris - “T.J” i’w ffrindiau niferus.  

Wedi’i fagu ar aelwyd Gymraeg cafodd afael ar yr iaith ysgrifenedig, safonol  drwy  fynd gyda’i rieni i gapel Ebeneser y Methodistiaid yn Nhwyn Carno  lle daeth yn flaenor . Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Lewis i Fechgyn, ac yno cafodd T.J. ei gyflwyno i’r gynghanedd ac mae sôn amdano ef â ffrind iddo yn mentro ar gynganeddu pan oeddent yn ifanc. Roedd ei gyfnod yno’n cyd daro am ddwy flynedd â chyfnod y Prifardd Edgar Phillips (Trefin)  a fu’n athro yn Ysgol Gynradd Pengam cyn symud i Bontllanfraith  yn 1924. Yr athro Cymraeg yn Ysgol Lewis, Pengam, ar y pryd oedd H.D.Jones - cyfaill i. Williams Parry.

Aeth i Goleg Hyfforddi Caerllion a rhwng 1929 ac 1931 a bu’n dysgu mewn ysgolion cynradd yn Nhredegar Newydd a Rhymni. Galwyd ef i’r Rhyfel yn 1941 a phenodwyd ef yn brifathro  yn 1954 yn Nhredegar Newydd. Symudodd i ysgol fwy yn Nhredegar a bu’n brifathro yno hyd nes iddo ymddeol yn 1973. Ymfudodd ei fab Phillip i’r Swistir a’i fab Neil i’r Eidal.  Claddwyd Phillip yn 1987.

Fel llawer un o dref Rhymni daeth dan ddylanwad diwylliedig, eisteddfodol y Parch Rhys Bowen. Ef oedd gweinidog yr Annibynwyr yn Moreia ac yn un a fu’n symbyliad i lawer menter Gymraeg yn ei dref fabwysiedig. Wrth yrru eisteddfod flynyddol y dref yn ei blaen mynnai gynnwys cystadleuaeth am ysgrifennu englyn yn y Rhestr Testunau pob blwyddyn. Ond prin iawn fu’r ymateb o flwyddyn i flwyddyn, a chlywyd y cyhoeddiad digalon lawer tro, “Ni fu cystadlu”. Ond y flwyddyn wedi claddu Rhys Bowen, penderfynodd T.J., er parch a choffadwriaeth am y Cymro pybyr hwnnw,  y byddai’n sicrhau bod cystadlu. Chwysodd yn galed i gynhyrchu chwe englyn, os ond er mwyn i’r beirniad allu cyhoeddi bod nifer wedi mentro arni.  A chafodd ei wobr drwy feirniadaeth gan Jennie Eirian -  a chael gwobr o un bunt. (Fel aelod o bwyllgor yr eisteddfod teimlai ei bod yn ddyletswydd arno ddychwelyd y wobr i’r achos.)   

Wedi hynny, aeth o nerth i nerth gan ddarllen mwy am farddoniaeth a chystadlu mewn eisteddfodau rhanbarthol a chenedlaethol. Cafodd ffrwyth ei lafur ei gyhoeddi mewn pedair blodeugerdd wahanol. Teimlodd hi’n fraint cael llunio cywydd croeso i Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1988. A’r flwyddyn ganlynol, yn Llanrwst fe’i derbyniwyd yn aelod o Orsedd y Beirdd. Ac wrth dderbyn Tomos Carno cyfarchodd yr Archdderwydd Emrys Deudraeth ef â chwpled,

Y llachar T.J.Harris

Pwy ar ei waith all rhoi pris?

Ond efallai mai yn Abergwaun yn 1986 oedd ei awr fwyaf. Oherwydd yno dyfarnodd neb llai na’r Prifardd T.Llew Jones y wobr gyntaf iddo ar gystadleuaeth yr englyn ysgafn. Roedd T.J. wedi dewis canu i’r “Hipi”,

 

Dim gaffer, dim hwteri, - dim c’wilydd, 

     Dim coler, dim trethi,

  Dim manners nad dim ynni

  Na dim un nod am wn i. 

Roedd yn aelod blaenllaw Gymdeithas Gymraeg Glan Elyrch yn Rhymni a phan ffurfiwyd Cymdeithas Lenyddol Bro Elyrch yn 1986 derbyniodd wahoddiad i fod yn Llywydd Anrhydeddus arni.  

Os am ddarllen mwy am y gŵr unigryw ac ymhongar hwn cewch lawer mwy o wybodaeth  yng nghyfrol werthfawr Dafydd Islwyn a’r Dr Siân Rhiannon,  “Englynion Rhymni a Cherddi Eraill”. Diolch am y gyfrol, bu’n i’r sail yr erthygl hon.