Morgan Jones 

1885 – 1939

Nid oedd Etholaeth Caerffili yn bod tan ad-drefnu 1918, a’r flwyddyn honno etholwyd Alfred Onions yn Aelod Seneddol Llafur - aelod o blaid wleidyddol gymharol newydd, i gynrychioli etholaeth newydd sbon felly. Ond byr fu ei yrfa oherwydd bu farw gwta dair blynedd yn ddiweddarach yn 1921, gan achosi’r cyntaf o gyfres o is etholiadau yn yr etholaeth newydd hon.

 Ei olynydd oedd Morgan Jones, y Gwrthwynebwr Cydwybodol cyntaf i’w ethol i senedd y Deyrnas Unedig. Bu yntau farw cyn gorffen ei waith gan esgor ar is etholiad arall yn 1939. Bu ei olynydd, Ness Edwards, yn y swydd am 29 o flynyddoedd ond marw gwnaeth yntau cyn cael cyfle i ymddeol. A’r farwolaeth hon a arweiniodd at beth a fu, o bosib y mwyaf enwog o’r is etholiadau, pan olynwyd ef gan Fred Evans yn dilyn brwydr epig rhyngddo a’r Dr Phil Williams, Plaid Cymru.

Ond roedd is etholiad 1921, pan gafod Morgan Jones ei ethol, ddim heb ei henwogrwydd, chwaith  Roedd y Blaid Lafur yn dechrau cael ei thraed oddi tani gan gynyddu’r nifer o Aelodau Seneddol a safai dan ei baner. Ac roedd 1921 yn adeg clymbleidio rhwng y Rhyddfrydwyr a’r Ceidwadwyr. Dyma’r adeg pan welwyd y Rhyddfrydwyr yn dechrau rhannu i mewn i ddwy garfan, y naill dan arweinyddiaeth radical David Lloyd George a’r garfan fwy ceidwadol yn ymlynu wrth egwyddorion Herbert Asquith. Roedd hi hefyd yn adeg o anniddigrwydd diwydiannol a gwelai gweithwyr Cwm Rhymni y Rhyddfrydwyr, wrth glymbleidio â’r Ceidwadwyr, yn cynrychioli’r perchnogion.

Ar ben hyn mynnai’r Western Mail na chai Morgan Jones unrhyw gefnogaeth gan gyn filwyr oedd wedi dychwelyd o’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac yntau’n Wrthwynebydd Cydwybodol. Bu neb yn fwy anghywir, erioed!

 Un o Gelligaer oedd Morgan Jones. Credir ei fod yn Gymro Cymraeg ac yn sicr  aeth i Ysgol Lewis i Fechgyn, Pengam ac i Brifysgol Reading cyn dychwelyd i’w fro enedigol yn1907 fel athro ysgol gynradd. Yn wir mae cofeb iddo yn neuadd Ysgol Gymraeg Gilfach Fargod yn nodi ei gyfraniad i undeb llafur athrawon. Y flwyddyn  ganlynol ymunodd â’r ILP (Independent Labour Party) fel yr enwyd y Blaid Lafur yr adeg honno,  a chafodd ei ethol yn aelod o Gyngor Gelligaer yn 1911. Ond talodd yn ddrud am fod yn Wrthwynebwr Cydwybodol oherwydd fe’i diswyddwyd am lynu wrth ei egwyddorion. A gwaeth! Cafodd ei arestio, ei orfodi i dalu dirwy o £2 a’i yrru i garchar Wormood Scrubs. Treuliodd ddau gyfnod o garchar â llafur caled yn ogystal ag un ddedfryd o’i gaethywo’n anghyfaneddol (solitary confinement).  Credir i’r llafur caled niweidio’i iechyd yn barhaol ac yn cyfrif am y ffaith iddo farw mor ifanc.

Yn 1918, wedi’r Rhyfel etholwyd Morgan Jones yn aelod o Gyngor Sir Forgannwg. Onid hwn oedd y corff a’i diswyddodd, fel cyflogwr athrawon, a hynny am ei ddaliadau pasiffistaidd?  

Agwedd arall o is etholiad 1921 oedd y ffaith mai hon oedd yr etholiad cyntaf i’w chynnal wedi ffurfiant y Blaid Gomiwnyddol Brydeinig. Ofnai nifer y byddai’r glowyr yn troi at y blaid honno gan iddynt honni nad oedd y Blaid Lafur Annibynnol (ILP) wedi eu cefnogi yn ystod eu gweithredu diwydiannol.

Roedd ymgeisydd Clymblaid y Rhyddfrydwyr/ Ceidwadwyr, William Rees Edmunds yn Gymro Cymraeg o Lanelli. Yn gyfreithiwr ym Merthyr bu’n ymladd yr un etholaeth yn 1918 a difyr nodi i’w ymgyrch yn 1921 ddechrau gyda nifer o gyfarfodydd cyhoeddus tanbaid a’r rhain yn cael eu cynnal yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Does dim gwybodaeth i Morgan Jones ddefnyddio’i fam iaith yn yr un modd.

Rydym yn cofio am Morgan Jones am i barc hyfryd yng Nghaerffili ac un arall ym Margoed gael eu henwi er ei fwyn.  

Diolch i Gymdeithas Hanes Caerffili am yr erthygl yn Rhifyn 7 o’u cylchgrawn a’r erthygl gan Julie Cambridge lle cafwyd llawer o’r wybodaeth uchod.

Hefyd, Morgan Jones, ‘A Man of Conscience’ gan Wayne David A.S.