Ysgol Sul yn Llanbradach – cyn Thomas Charles!
Morgan John Rhys (1760 –1804)
Dyma oedd hen drigolion Llanbradach yng Nghwm Rhymni yn ei gredu am flynyddoedd lawer. Roedd y stori wedi’i throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth fod gan ardal Llanbradach Ysgol Sul cyn diwedd y ddeunawfed ganrif, ddwy flynedd lawn cyn i Thomas Charles sefydlu ei ysgolion ef.
A’r sawl fu’n gyfrifol am hyn oedd gŵr o’r enw Morgan John Rhys, un a fagwyd yn fferm y Graddfa, uwchben Llanbradach, flynyddoedd cyn sefydlu’r pentref yno. Ond un a ddaeth yn fwy adnabyddus am gyhoeddi’r ‘Cylchgrawn Cymraeg’ ac a wnaeth ei farc mewn sawl man arall yn ystod ei oes fer. Derbyniodd ei addysg gynnar yn un o Ysgolion Cylchynol Gruffydd Jones ac aeth ymlaen i dderbyn addysg bellach yn Fferm y Cwm dan ofal y Parchedig David Williams, Pwllypant.
Dechreuodd Morgan John Rhys bregethu pan oedd tua un ar hugain mlwydd oed ac yn un o aelodau ifanc Capel Hengoed.(1650) yng Nghefn Hengoed. A’r capel hwnnw a’i cymeradwyodd i’r Coleg Diwinyddol ym Mryste. Ond gadawodd y coleg, heb ganiatâd, a’i ordeinio’n weinidog ym Mhen-y-garn, Pont-y-pŵl yn 1791.
Bu’n teithio draw i Fryste ar fusnes gyda’i dad a chredir iddo ddod dan ddylanwad pobl fel Robert Raikes. Ond mae’n annhebyg mai Ysgol Sul Seisnig y sefydlwyd ganddo oherwydd dywedir mai modd o gadw pobl yn ufudd i’r gyfraith oedd yr Ysgol Sul Seisnig tra, yng Nghymru, tybiwyd bod gwir ddymuniad i roi addysg grefyddol i’r werin.
Anodd credu i Morgan John gerdded y tair milltir a hanner i’r Hen Dŷ Cwrdd yng Nghefn Hengoed i addoli ac yna denu eraill, oedd wedi cerdded pellteroedd tebyg, nôl i’w gartref yn y Graddfa i’r Ysgol Sul. Oni fyddai wedi bod yn haws cynnal yr Ysgol yn y capel? Mae’n debycach, felly, mai Ysgol Gylchynol a gynhaliwyd yng nghartref ei rhieni ond, efallai iddo gynnal Ysgol Sul ym Mhen-y-garn. Cred y Parchedig Edward Evans, Dowlais iddo sefydlu Ysgol Sul yn Hengoed yn 1787. Mae hyn ddwy flynedd cyn i Thomas Charles sefydlu ei Ysgol Sul gyntaf ef.
Ond nid wrth sefydlu ysgolion yn unig y bu’r gŵr yma’n arloesol. Ddiwedd 1791 aeth i Ffrainc yn dilyn y Chwyldroad. Yno bu’n pregethu rhyddid yn erbyn Pabyddiaeth. Dychwelodd i Gymru yng Ngwanwyn 1792 gyda’r bwriad o ddychwelyd i Ffrainc, lle’r oedd wedi sefydlu eglwys ym Bologne, ond methodd godi’r arian angenrheidiol. Ond wrth wneud hyn roedd eisoes wedi dechrau dosbarthu Beiblau mewn gwlad arall, a hynny ddeuddeg mlynedd cyn sefydlu’r Gymdeithas Feiblaidd.
Yn 1793 cyhoeddodd “Y Cylchgrawn Cymraeg neu Drysorfa Gwybodaeth” am y tro cyntaf. Yn Nhrefeca oedd hyn ond er mai ond pum rhifyn a gyhoeddwyd bu’n rhaid eu cyhoeddi mewn amryw fannau. Roedd hyn am fod pobl yn ofnus o’i syniadau. O ddarllen y cylchgrawn gwelir bod erthyglau ar wyddoniaeth, llenyddiaeth a materion eraill. Ond roedd yr hinsawdd wleidyddol mor anodd yn sgîl y chwyldro yn Ffrainc fel mai anodd iawn oedd mynegi barn o unrhyw fath.
Bu’r ysfa i fynd i’r America yn gryf ynddo am rhai blynyddoedd ac o’r diwedd fe hwyliodd allan o Lerpwl ar y 1af o Awst 1794 ar fwrdd y ‘Port Mary’ gyda llawer o bobl o’r Bala a Llanbrynmair. Dywedir mai dianc oedd ar y pryd am fod yr awdurdodau ar ei ôl oherwydd cynnwys ei Gylchgrawn ac felly does dim modd bo yn gwbl sicr ai mynd o’i fodd a wnaeth neu beidio.
Setlodd yn Beulah, lle sefydlodd dreflan aflwyddiannus o’r enw Cambria gan greu cwmnïau Cymraeg a’r “Cambrian Settlement” sef ysgolion a llyfrgelloedd gyda’r bwriad o greu gwladfa. Ond roedd awdurdodau’r Byd Newydd yn fwy awyddus i weld cymunedau integredig ac felly yn erbyn yr arwahanrwydd hwn.
Sefydlodd Eglwys Gristnogol yno ar gyfer Bedyddwyr, Methodistiaid ac Annibynwyr ac yn 1796 sefydlodd ysgol ac ysgol Sul a’r rhain, wrth gwrs, yn rhad ac am ddim. Aeth ati i gychwyn papur newydd “The Western Sky” yn 1798.
Bu’n ddewr iawn yn ochri gydag Indiaid Brodorol Gogledd America a’r caethweision croenddu. Gwnaeth safiad dewr gan areithio’n rymus yn erbyn y modd yr oedd dinasyddion y wlad newydd hon yn cymryd mantais annheg o’u cyd ddynion. Mae’n sicr fod ei waith yn berthnasol i’r mudiad cyfredol ‘Du ac yn Cyfri’ (Black Lives Matter).
Yn y diwedd. Yn yr ardal hon fe’i gwnaed yn Ustus Heddwch ac yn Farnwr Cynorthwyol gan ddal nifer o swyddi cyhoeddus pwysig eraill.
Bu farw ar y seithfed o Ragfyr 1804 ddiwrnod cyn cyrraedd ei ben blwydd yn bedwar deg a phedair oed ac fe'i claddwyd yn Somerset, Pensylvania. Boddi yn agos i’r lan fu ei hanes. Gallai fod wedi ennill hyd yn oed mwy o anfarwoldeb. Petai wedi bod fel arall, efallai mai ef y byddem heddiw yn cydnabod fel sefydlwr ein Hysgolion Sul; neu ef allai fod wedi bod yn gyfrifol am y Gymdeithas Feiblaidd Brydeinig a Thramor. Ond ef yn sicr sefydlodd y cylchgrawn cyntaf i ddelio â materion cyfoes yn yr iaith Gymraeg.
Dyma’r plac a ddadorchuddiwyd yng nghapel Seion y Bedyddwyr Cymraeg yn Llanbradach yn 1944 i ddathlu hanner canmlwyddiant ers sefydlu’r capel a hefyd clirio’r ddyled a godwyd i adeiladau’r capel. Mae hefyd yn dathlu 140 mlynedd ers marw ein harwr. Hefyd dyma emyn o’i eiddo
Toriad y Wawr (1794)
Mae’r wawr yn torri draw,
A’r dydd yn agosáu
(Mae’r byd mewn poen a braw)
A’r plant yn llawenhau:
Gorthrymwyr byd sy’n crynu i gyd,
A’r plant yn canu am bwrcas drud.
Mae’ prynu gwerthu dyn
Yn awr bron dod i ben;
Ni waeth pwy liw neu lun
Fo dynion is y nen:
Maent holl yn wrthrych cariad rhad,
Maent oll yn perthyn i’r un Tad.
Morgan John Rhys (1760-1800)
Dywed yr Athro E.Wyn James:
“Ar fater yr Ethiop yn emyn MJRh, nid cyfeiriad 'hiliol' sydd yno, mewn gwirionedd, ond un 'Beiblaidd’, ac yn gyfeiriad yn arbennig at ddyn o Ethiopia yn cael tröedigaeth ac yn cael ei fedyddio (Actau 8:26-39). Rhag ofn y bydd o ddiddordeb, rwy'n yn trafod ychydig ar emyn MJRh a'r cyfeiriad at yr Ethiop mewn erthygl sydd ar gael yn electronig yma (tua hanner ffordd trwy'r erthygl):
https://www.cardiff.ac.uk/cy/special-collections/subject-guides/welsh-ballads/caethwasanaeth-ar-beirdd”
Yn sgil suddo pwll glo Llanbradach yn 1893, ymddangosodd pentref helaeth wrth i’r perchnogion fynd ati i adeiladu nifer o fawr o dai teras. Mae’n rhaid bod hyn yn adeg gyffrous wrth i’r datblygwyr geisio darparu ar gyfer anghenion y boblogaeth newydd oedd ffurfio cymunedau un o brif bentrefi Cwm Rhymni. Aeth y capelwyr o blith y mewnfudwyr hyn ati i sicrhau fod ganddynt fan priodol i addoli. Mewn bach o amser sefydlwyd capeli ar gyfer yr Annibynwyr, y Methodistiaid a’r Bedyddwyr yn ogystal â’r Eglwys Wladol. Nid yn unig darparu ar gyfer yr amryw enwadau a wnaed ond sicrhau fod capeli ar gael yn y Gymraeg a Saesneg heblaw, wrth gwrs, am yr eglwys. Diddorol nodi, er bod tri chapel enwadol Cymraeg, fod nifer sylweddol o’r newydd-ddyfodiaid yn hanu o Wlad yr Haf.
Yn anffodus dim ond un o’r saith addoldy sydd ar agor erbyn hyn a chapel y Bedyddwyr cyfrwng Saesneg, Ebeneser, yw hwnnw. Cadwyd at y traddodiad Cymreig o enwi’r capeli â theitl o’r Beibl. Hyn o gymharu â’r arfer Seisnig o enwi’r capeli yn ôl y stryd lle adeiladwyd. Mae capel Windsor Street yng Nghaerffili yn enghraifft o hyn.
Codwyd yr arian i adeiladu mannau teilwng ar gyfer Llanbradach oedd i ddod yn bentref digon sylweddol. Dengys y cofnodion i arloeswyr achos y Bedyddwyr Cymraeg gymryd hanner can mlynedd i glirio’r ddyled a godwyd er mwyn adeiladu “Seion”.
Rhaid, felly, oedd dathlu dau achlysur yn y pentref: yn gyntaf roedd galw am ddathlu’r ffaith fod hanner can mlynedd wedi mynd ers cychwyn yr achos, yn ogystal â nodi’r ffaith fod y ddyled wedi’i chlirio.
Ond roedd yr arloeswyr dewr hyn am nodi digwyddiad arall oedd o gryn bwysigrwydd. Disgynnodd mantell disgynyddion Morgan John Rhys ar y gynulleidfa newydd hon. Oherwydd Bedyddiwr Cymraeg oedd ein harwr a anwyd ar lethrau’r mynydd uwchben y pentref.
Wrth gofio dau gan mlwyddiant marwolaeth Morgan John Rhys cynhaliwyd un o’r digwyddiadau yn y capel bach hwn. Daeth yr Athro Jerry Hunter o Goleg Prifysgol Cymru, Bangor, atom. Bu’n darlithio i’r gynulleidfa ac aelodau Cymdeithas Morgan John Rhys, brynhawn Sul 17eg o Ebrill 2004. Ei bwnc oedd “Cymry America, Radicaliaeth a Gweledigaeth”.
Pan ddaeth yr achos i ben rai blynyddoedd yn ôl roedd yn rhaid achub plac gwerthfawr a osodwyd y tu mewn i’r capel yn ystod dathliadau 1944. Cafwyd anhawster dod o hyd i fan priodol i’w arddangos. Yna, cyhoeddodd Ysgol Gyfun Cwm Rhymni eu bod am wneud prosiect amlddisgyblaeth ar gyfer holl ddisgyblion dau safle’r ysgol ar waith a bywyd Morgan John Rhys.
Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion am y prosiect hwn a’r bwriad o ail-ddadorchuddio’r plac yn safle’r Gwyndy lle mae disgyblion Llanbradach yn derbyn eu haddysg uwchradd cyfrwng Cymraeg.