“Jac Rwsia”

John Roberts, Abertridwr 1899 – 1979

Ganed  John Roberts ym Mhenrhyndeudraeth ar y 1af o Fai 1899, Diwrnod y Gweithiwr; Gŵyl Fai a Diwrnod Sant Joseff.  Priodol iawn am un a dyfodd i fod yn Gomiwnydd o argyhoeddiad ac yn un a fu’n ymladd achos y gweithiwr a’r isel ei ystâd gydol ei fywyd.

Magwyd John gan ei fam-gu. A gweld hon yn gorfod plygu clun wedi cerdded milltir a hanner i fynd ar ofyn y plwyf am gardod a gododd ei ymwybyddiaeth o dlodi ac anghyfiawnder. Roedd disgwyl i’w nain ddod i ben â dau swllt a naw cheiniog (tua 14 ceiniog  yn ein harian ni)  yr wythnos i gynnal ei hun a’i phlant.

Yn bedair ar ddeg oed daeth i lawr i Dde Cymru gan weld dyfodol i’w hun yn y diwydiant glo. Cyrhaeddodd Abertridwr, a chartref ei fodryb yn ystod yr Haf cyn tanchwa trychinebus Senghennydd yn 1913. Yn y capel daeth o hyd i Gymraes arall a aned ym Mhenrhyndeudraeth a phriododd Jack  a May fore’r 3ydd o Ebrill 1920 yn Eglwys Ilan.

Yn ystod y blynyddoedd a ddilynodd hyn bu’n ddraenen yn ystlys awdurdod annheg a chyflogwyr trahaus. 

Er nad oedd ganddo ddigon o arian, mentrodd arni ddwy waith cyn cyrraedd Sbaen. Yno roedd am ymuno â’r  International Brigade.  Byddin garpiog oedd hon o lowyr, deallusion, docwyr, myfyrwyr, gweithwyr ffatri a dynion ar y clwt a fu’n ymladd yn erbyn byddinoedd yn cynnwys milwyr Hitler o’r Almaen a Mussolini’r Eidal. Eu delfryd oedd trechu Ffasgaeth er mwyn pobl a gweithwyr cyffredin a hwythau wedi dioddef cymaint dan droed cyfalafwyr adain dde Prydain.   

Os ar yr ail gynnig cyrhaeddodd Jac Sbaen ar y trydydd cais cafodd ei ethol i Gyngor Caerffili. A bu’n cynrychioli Abertridwr yno yn ddi-dor rhwng 1935 a 1953 gan wisgo cadwyn y Cadeirydd yn ystod 1946-47.  Roedd gan gyngor Caerffili dri chynrychiolydd ym mhob ward ac etholwyd pob un yn ei dro. Roedd hyn yn golygu etholiadau blynyddol a phan ddaeth tro Jac i amddiffyn ei sedd roedd allan yn Sbaen. Efallai mai’r deyrnged fwyaf i’r parch oedd iddo yn y pentref oedd i neb sefyll yn ei erbyn a chafodd ei ail ethol yn ddiwrthwynebiad yn ei absenoldeb.  

Roedd yn aml wedi ei chael hi’n anodd dod o hyd i waith oherwydd ei gefndir gwrthryfelgar a’r enw oedd ganddo am herio awdurdod. Bu’n daer iawn yn erlyn y blacklegs yn ystod streiciau dau ddegau a tri degau’r ganrif ddiwethaf. Ond yn 1944 cafodd ei apwyntio’n rheolwr ar  Neuadd y Gweithwyr yn Abertridwr lle bu tan ei ymddeoliad yn 1966    

Mae ei ferch Margaret yn dal i fyw yng Nghaerffili a’i ŵyr, Richard Felstead a ysgrifennodd hanes ei fywyd yn y gyfrol “No Other Way” lle cafwyd mwyafrif y wybodaeth hon amdano. Bwriadwyd y gyfrol yn anrheg i Jac i ddathlu ei ben blwydd yn bedwar hugain ond bu farw ychydig o fisoedd prin cyn hynny yn Ionawr 1979 yn Ysbyty’r Glowyr. Bu farw, fel y bu fyw, yn Gomiwnydd o argyhoeddiad.