Idris Davies 

(1905 – 1953)

 

I was born in Rhymney

To a miner and his wife –

On a January morning

I was pulled into this life.

Felly disgrifiodd y bardd Idris Davies ei enedigaeth i mewn i deulu capelgar, Cymraeg ei iaith. Ond eto, yn hwyrach yn ei fywyd mae’n sôn am fynd i Ysgol Nos i ddysgu’r Gymraeg. Credir mai ei fwriad oedd dysgu gramadeg a llenyddiaeth ei famiaith, oherwydd prin fu’r sylw a gafodd y Gymraeg yn ystod ei addysg gynnar,

I lost my native language

For the one the Saxon spake

By going to school by order

For education’s sake.

Ac nid yn unig mynd i’r ysgol yn blentyn wnaeth Idris Davies ond, yn y pen draw, fel athro. Ynghyd a’i gyfoedion, bu’n rhaid iddo fynd i weithio yn y lofa yn bedair ar ddeg mlwydd oed. Yno cafodd niwed cas drwy golli bys ac erbyn iddo wella roedd y Dirwasgiad yn golygu nad oedd llawer o waith ar gael. A chyn i bethau wella roedd y gwaith glo lleol wedi cau. Aeth  Idris Davies ati wedyn i wella ei gymwysterau drwy gyrsiau gohebol a phasio i fynd i Goleg Loughborough a Phrifysgol Nottingham i ddod yn athro. Wedyn cafodd gyfnod o addysgu yn Llundain, Oherwydd y rhyfel symudodd i nifer o leoedd gan gynnwys Llandysul a Threherbert yn y Rhondda cyn dychwelyd i Gwm Rhymni yn 1947 Bu’n athro yn ysgol Cwmsyfïog rhwng 1947 a 1952.

Roedd wedi’i gythruddo gan annhegwch a chaledi’r dau ddegau a bu hyn yn ganolog i’w ddaliadau gwleidyddol a’i ysgrifennu, fel y gwelir yn ei gyfrol gyntaf, Gwalia Deserta (1937). Tebyg yw naws ei gerdd hir The Angry Summer (1943). Tra yn Nhreherbert cwblhaodd ei drydedd gyfrol Tonypandy and Other Poems (1945)

Ond dywed yr Athro George Thomas, awdurdod blaenllaw ar waith y bardd, i’r chwerwedd hyn gilio yn y pendraw. Meddai, “Yna, cafodd Idris y breuddwydiwr ryddid i chwilio’r hunan ysbrydol a chyflwyno i’n sylw myfyrgar ansawdd oesol y mynyddoedd a fu iddo yn ffynhonnell ei gariad at ysgrifennu cyhyd.”

Adeg Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni yn 1990 cofiwyd am y bardd hynod hwn drwy gyhoeddi cyfrol ddwyieithog o ddetholiad o’i gerddi a gwybodaeth amdano o dan y teitl. “Fe ’magwyd i yn Rhymni/ I was born in Rhymney’.   Roedd cyfrol gyflawn o’i waith eisoes wedi’i chyhoeddi yn 1972,  The Collected Poems of Idris Davies gan Wasg Gomer dan olygyddiaeth Islwyn Jenkins a bu sawl argraffiad pellach o’r gyfrol honno.

Yn y ddwy gyfrol gellir mwynhau ei gerddi yn enwedig rhai o’r cerddi mwyaf poblogaidd megis, ‘Clychau Rhymni’, Let’s Go To Barry Island Maggie Fach, ‘Cwm Rhymni’ a ‘Ffair y Waun’.

Bu farw ar y 6ed o Ebrill 1953 yn 7 Victoria Road, Rhymni yn 48 mlwydd oed. Roedd wedi bod yn wael ers wythnosau lawer ac fe’i corfflosgwyd yn Amlosgfa Glyn Taf a chladdwyd ei lwch ym medd y teulu gyda’i dad a’i ewythr Edward.