Guto Nyth Brân
Tybed oes yna redwr i’w gymharu ag un o arwyr ein cenedl, un â chysylltiadau agos â’r ardal hon? Mae gorchestion Guto Nyth Brân yn gwbl anhygoel ac yma, yn ardal “Cwmni”, y cyflawnodd ei orchest olaf ac, efallai, yr un enwocaf.
Un o ardal Pontypridd oedd Guto, neu i roi iddo ei enw cywir, Gruffydd Morgan. A chafodd ei adnabod fel Guto Nyth Brân am i’w deulu symud i fyw mewn fferm o’r enw Nyth Brân. Fe’i ganed tua’r flwyddyn 1700 a bu’n byw yn ardal Llanwynno sydd ar ben y mynydd rhwng Ynys y Bwl ger Pontypridd a Blaenllechau yn y Rhondda Fach.
Y stori fwyaf enwog amdano yw yr un am ei fam yn ei yrru i Aberdâr neu Lantrisant i nôl burum (yeast). Dywedir y gallai rhedeg yno ac yn ôl cyn i’r tegell ferwi!
Dywedir stori arall amdano’n corlannu defaid ei dad ar ben y mynydd un diwrnod. Oherwydd ei gyflymdra neilltuol gallai’n hawdd rhedeg o gwmpas y praidd. Ond y diwrnod neilltuol hwn rhedodd a dal un o’r anifeiliaid ac wedi ei ddal sylwi mai sgwarnog oedd y creadur! Dyna pam, efallai, y canwyd y triban hwn amdano,
Ysgafndroed fel ‘sgyfarnog,
A chwim oedd Guto enwog –
Yn wir, dywedir bod ei hynt
Yn gynt na’r gwynt na’r hebog.
Tribannau Morgannwg
Ond y cysylltiad sydd rhyngddo ag ardal “Cwmni” yw iddo dderbyn her i rasio yn erbyn Sais o’r enw Prince. Roedd hon i fod yn ras o ddeuddeg milltir o Gas Newydd i eglwys Bedwas. Mae’r stori am y ras fel rhyw adlais am stori Aesop am y crwban a’r sgwarnog oherwydd dywedir i Prince fynd ar y blaen ar ddechrau’r ras tra bo Guto’n mynd yn ei flaen yn ling-di-long. Arhosai Guto i sgwrsio gyda rhai o’r bobl a ddaeth i’w wylio. Ac yn sicr, yn y Gymraeg byddai rhan fwyaf o’r sgwrsio wedi bod yr adeg honno.
Wrth i Guto ddechrau cymryd y ras o ddifrif daeth yn agosach at y Sais gyda phob cam. Dywedir i gefnogwyr Prince, a fyddai’n betio’n drwm ar y ras mae’n siŵr, i ddechrau taflu gwydr ar y llawr o flaen Guto. Ond neidio dros y gwydr wnaeth yr athletwr neilltuol hwn gan wrth iddo basio Prince gwahodd hwnnw i redeg yn gyflymach. Enillodd y ras drwy gyrraedd eglwys Bedwas mewn 53 munud.
Roedd un o’i gefnogwyr mor hapus o’i weld yn ennill aeth i fyny ato a’i ganmol ar ei gefn yn rhy frwdfrydig. Roedd heb sylweddoli mor flinedig oedd ei arwr a bu’r ganmoliaeth yn angheuol h.y. yn ddigon i’w ladd,gan i Guto syrthio’n farw o drawiad ar ei galon.
Cynhelir ras o hyd ar heolydd yn ardal Aberpennar ar Nos Galan (noson olaf y flwyddyn) i gofio am Guto. Hefyd, gwnaed casgliad ym mhlwyf Llanwynno flynyddoedd wedi’i farwolaeth er mwyn sicrhau cofeb anrhydeddus i’r arwr cenedlaethol hwn ym mynwent eglwys y plwyf. Ewch yno i’w gweld.