Eynon Evans
(1904 – 1989)
Y tu cefn i gapel Tonyfelin yng Nghaerffili ceir festri Christmas Evans, er cof am y gweinidog enwog a fu’n gwasanaethu yn y capel hwnnw am gyfnod yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond yn un o’r festris, a ddefnyddir bellach yn Ysgol Feithrin, mae Theatr Eynon Evans. Wrth fynd i mewn i’r neuadd gwelir ar yr ochr dde bod llwyfan y tu ôl i rhaniad symudol, lle bellach cedwir offer ar gyfer y plant bach. Crëwyd lle, hefyd, i storio setiau a chelfi o dan y llwyfan ac mewn llofft uwchben y festri.
Am flynyddoedd lawer hwn oedd cartref Cwmni Drama Tonyfelin ac mae llawer o drigolion y dref yn cofio dros dri chant o bobl yn llenwi’r neuadd am fwy nag un perfformiad o ddramâu’r cwmni. Y rhain, rhan fynychaf, wedi’u hysgrifennu gan Eynon Evans. Dywedir i rai o aelodau’r capel flino rhywfaint o weld y cwmni drama yn mynd yn fwy o beth na’r addoldy. A diwedd y gân fu i’r cwmni drama symud allan a newid yr enw i’r Caerphilly Players - cwmni sy’n dal i fod yn boblogaidd heddiw.
Gyrrwr bws oedd y dramodydd, actor a’r cynhyrchydd blaengar Eynon Evans wrth ei alwedigaeth. Roedd yn cyfaddef ei fod yn aml yn wan am ysgrifennu plot ond fod ei gymeriadau yn rhai cryf iawn. A doedd yr un cymeriad yn fwy lliwgar na’r dramodydd ei hun. Yn ddiau deuai ar draws ddeunydd crai wrth ddilyn ei alwedigaeth. Gofynnodd rhywun un tro ble oedd arosfan y bws. Yr ateb oedd, ble bynnag y byddai Eynon am aros! Dywedir ei fod yn hoff o stopio’i fws y tu allan i dŷ rhywun oedd yn ddi-hwyl gan achub ar y cyfle i godi calon drwy dalu ymweliad amserol.
Edrydd Denzil John, gweinidog Eynon yn Nhonyfelin, atgofion o’i sgyrsiau gyda’r dyn mawr. Gofynnwyd iddo ysgrifennu rhan i’w Weinidog un flwyddyn fel y gallai hwnnw ymuno mewn perfformiad. Ond diwedd y gân, yn ôl Eynon, oedd iddo ysgrifennu cystal rhan a’i hoffi cymaint nes iddo benderfynu chwarae’r rhan ei hun!
Cyhoeddwyd nifer dda o’i ddramâu a bu bri mawr ar eu perfformio ledled Cymru a thu hwnt ganol y ganrif o’r blaen. Mae’r teitlau yn cynnwys ‘Affairs of Bryngolau’ (1950) a ‘Bless This House’ (1954). Dywed y ‘Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru’ i’w ddrama fwyaf adnabyddus ‘Wishing Well’ (1946) a’r un a’i sefydlodd yn ddramodydd proffesiynol, gael ei throi yn ffilm yn ddiweddarach fel, ‘The Happiness of Three Women’. A’r awdur yn chwarae un o’r prif rannau. Dywed y Cydymaith, “Er nad oedd Eynon Evans yn llenor dwfn, yr oedd ganddo lygad craff i weld yr elfennau anghydnaws ym mywydau Cymry, a chryn allu yng nghrefft y llwyfan. Awdur bro yn yr ystyr gyfyng oedd, ond bu ei lwyddiant ar lwyfannau Llundain a’i ddiddordeb yn y ddrama yng Nghymru yn ysgogiad i lenorion eraill.”
Cyhoeddodd gyfrol o storïau byrion yn dwyn y teitl “Prize Onions” (1951)a daeth y llyfr hwn a bron cymaint o enwogrwydd iddo ag y gwnaeth ei ddramâu. Mae’r stori sy’n dwyn y teitl, yn sôn am gystadlu brwd mewn sioeau garddio a’r anfadwaith a wnaed er mwyn ennill gwobr. Enwyd stad newydd o dai uwchben Caledfryn, Penyrheol, er anrhydedd i Eynon Evans, heb fod yn bell o’i gartref oedd yn Court Road, Ene’rglyn.Ond tybed faint o’r trigolion sy’n ymwybodol o arwyddocâd yr enw?