Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Caerffili 1950
Daeth yr Eisteddfod Genedlaethol ar ymweliad â thref y castell yn y flwyddyn 1950 ac ymweliad cofiadwy bu hwn. Roedd yr Eisteddfod hon yn enwog am nifer o resymau.
Yng Nghaerffili y daeth Gwilym R. Tilsley (1911 - 1997) yn enwog wrth iddo ennill y Gadair gyda’i awdl i’r Glöwr Daeth y cerddi hyn yn adnabyddus iawn . Dyma ran ohoni.,
Ar ei wedd welw a rhoddwyd – nod ei waith
Yn friw dwfn na chodwyd;
Erys y graith a dorrwyd
Yn ddu-las ar ei rudd lwyd.
Ei fywyd ef na foed ofer, - ei gam
A’u gur nac anghofier;
Ei glod a ddyrchafo’r glêr,
A’i ogoniant a ganer.
Y Glöwr
Caner, a rodder iddo – glod dibrin
Y werin a’i caro;
Nydder y mawl a haeddo .
I arwr glew erwau’r glo
Erwau’r glo dan loriau’r glyn – yw ei le,
Gyda’i lamp a’i erfyn;
I’w ddu gell ni ddaw dydd gwyn,
Ni ddaw haul yno i’w ddilyn.
Gwilym R. Tilsley (1911 – 1997)
Dyma’r fynedfa i Faes yr Eisteddfod yn 1950. Roedd y giât yma’n arwain o Crescent Road i mewn i feysydd Owain Glyn Dŵr. Dirywiodd cyflwr yr adeiladwaith o gwmpas y gatiau tan oedd bron a diflannu’n gyfan gwbl ychydig flynyddoedd yn ôl ond cafodd yr holl beth ei ailadeiladu yn 2008. Synnai nifer o drigolion ar edrychiad yr adeiladwaith ond mae’n hynod o agos i’r gwreiddiol. Gellir gweld pafiliwn 1950 yn y cefndir.
Yn yr Eisteddfod hon, hefyd, yr enillodd y Prifardd T. Llew Jones ei wobr Genedlaethol gyntaf. Mae T.Llew, wrth gwrs yn adnabyddus am ei lyfrau antur ar gyfer plant. Aeth â’r wobr gyntaf am ei englyn ‘Ceiliog y Gwynt’. Ond beth sy’n fwy diddorol iddo ennill allan o’r nifer mwyaf i gystadlu ar yr englyn erioed yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwnaeth yn fwy na dod yn fuddugol allan o 347 o ymgeiswyr oherwydd llwyddodd, yn ogystal, i ddod yn ail iddo ef ei hunan!
Ceiliog y Gwynt
Hen wyliwr fry mewn helynt – yn tindroi
Tan drawiad y corwynt,
Ar heol fawr y trowynt,
Wele sgwâr polis y gwynt.
T.Llew Jones
Gellir twrio am nifer o ffeithiau diddorol am y Brifwyl hon drwy ddarllen traethawd Hywel Teifi Edwards yn ei gyfrol “Ebwy, Rhymni a Sirhywi” sydd yn rhan o Gyfres y Cymoedd. Ynddi cawn wybod bod rhyw 700 o aelodau yng Nghôr yr Eisteddfod y flwyddyn honno ac iddynt ddatgan Yr Offeren yn B leiaf gan Bach ar y nos Iau ac eilwaith ar y nos Sadwrn. Hefyd, datganiad o Eleias Mendelssohn. Dywedwyd am y bariton ifanc a ganodd y noson honno - “Diau y clywir llawr amdano ef eto”. A gwir y geiriau oherwydd y canwr oedd neb llai na (Syr) Geraint Evans! Diddorol deall, hefyd, i offerynwyr enwog Pedwarawd Amadeus ymddangos yng nghapel Heol y Fan.
Mae’n debyg mai bodloni ar lety digon sylfaenol a wnâi eisteddfodwyr y cyfnod. Darparwyd lle ar eu cyfer mewn ysgolion ac un ysgol a ddefnyddiwyd oedd yr adeiladau lle bu Ysgol Gymraeg Caerffili ynddynt tan yn ddiweddar. Roedd yr ysgol yr adeg honno, er yn ysgol cyfrwng Saesneg, dan brifathrawiaeth Mr T.H. Williams, M.A. oedd yn Gymro Cymraeg a hanai o’r Alltwen yng Nghwm Tawe. Dywedir i’r bardd Waldo Williams dreulio’r wythnos yn yr ystafell ddosbarth y drws nesaf i stafell y Prifathro.
Ond yr hyn sy’n aros gyda’r genedl ers Eisteddfod 1950 a hynny, efallai, yn fwy na dim byd arall yw’r Rheol Gymraeg bondigrybwyll. Ie, yng Nghaerffili y cyflwynwyd y rheol honno ac mae, wrth gwrs, yn dal mewn grym.
Yn ei lyfr am y cyn Aelod Seneddol Ness Edwards, dywed yr Aelod Seneddol presennol Wayne David i Ness Edwards wrthod siarad yn y Gymraeg pan oedd yn llywydd y dydd, a hynny fel protest yn erbyn y Rheol Gymraeg newydd. Does dim sicrwydd a fyddai’r Aelod Seneddol, a gynrychiolodd Cwm Rhymni o 1939 tan 1968, wedi medru annerch y gynulleidfa yn y Gymraeg petai’n dymuno gwneud hynny, er bod ei rieni yn Gymry Cymraeg. Ymhellach mae’r un awdur yn mynnu i weithwyr y bysiau weithredu’n ddiwydiannol am yr un rheswm. Byddai’n werth gweld a oes tystiolaeth o hynny!
Dywed Hywel Teifi am Ness Edwards, “Siaradodd iaith y Rhyfel Oer wrth ymarswydo rhag gweld llen haearn yn disgyn rhwng y Gymru Gymraeg a’r Gymru di-Gymraeg ac amneidiodd i gyfeiriad Natsïaeth wrth bwysleisio cymaint trasiedi fyddai ‘if the predominantly English-speaking areas were transformed into Welsh Sudetenlands, shut out of al things Welsh by a barrier of our own creation.”
gan Omnesius
Un peth sy’n peri syndod yw na chyflwynwyd y Rheol Gymraeg am y tro cyntaf mewn ardal lle'r oedd llawer mwy o Gymraeg yn cael ei siarad. Wedi’r cyfan dywedwyd mai dim ond PUM plentyn fedrai siarad Cymraeg yn nhref Caerffili adeg yr Eisteddfod! Faint sydd nawr tybed?
Dyma hen ffotograff o faes yr Eisteddfod yng Nghaerffili yn 1950. Dyma’r lle a enwyd yn Gaeau Glyn Dŵr ger Ysgol y Castell. Anodd i ni erbyn hyn ddygymod â’r ffaith y gallwyd cynnal y Brifwyl ar safle mor fach.