David Williams (Waunwaelod)

Mewn erthygl gynharach yn y gyfres hon cafwyd hanes y Parchedig David Williams (Pwllypant).  Roedd y Parchedig frawd yn athro i un arall y gwelwyd ei hanes yn y colofnau hyn sef, Morgan John Rhys (Y Graddfa, Llanbradach). Roedd hefyd yn athro, yn ei ysgol, yn Fferm y Cwm, i un o’r un enw a ef ei hun sef, David Williams (Waunwaelod) a hwn yw’r un a roddodd ei enw i’r parc lle mae cerrig yr orsedd tu ôl i Gastell Caerffili yn ymyl Crescent Road.

Y geiriau sy’n ysgrifenedig ar y gofgolofn yw,

                                                                  DAVID WILLIAMS

 Born at Waenwaelod, Watford 1738 Died at london, June 29 1816. Buried at St.Anne’s, Soho.

This memorial has been raised by a few admirers. He was one of the most notable Welshmen of his age and generation. Endowed with rare intellectual gifts He devoted the greater part of his life to the helping of the poor, the expounding of the principles of popular education and furthering the cause of liberty, both in speech and thought. He wrote many books and drafted the first constitution of the French Revolution. He shielded Benjamin Franklin and other friends of freedom from persecution and he founded the Royal Literary Fund.

GWYN EI FYD.
 Mae ei fan geni, Waunwaelod, bellach yn adfail yn agos i dafarn Clwyd y Gurnos (y ‘Black Cock) ar Fynydd Caerffili. Yn wir, enwyd yr heol sy’n mynd heibio i’r fan ar ôl y fferm a gellir ond gobeithio mai teyrnged i’r gŵr enwog hwn oedd y bwriad wrth enwi’r heol felly.

Wedi hyfforddi i fod yn Weinidog, yng Nghaerfyrddin cymerodd ofalaeth nifer o eglwysi yn Lloegr ac aeth i fyw yn Soho yn Llundain. Agorodd ysgol, lle bu’n rhaid i’r rhieni dalu’n ddrud am yrru eu plant. Collodd ei wraig a’u plentyn yn ystod yr enedigaeth yn ystod yr adeg hon.

Deallwn efallai bod ychydig o amheuaeth am yr hyn sy’n ymddangos ar y gofeb am addysg boblogaidd  gan nad oedd yn rhannu gweledigaeth ei gyfoeswr o’r ardal hon, Morgan John Rhys, o ran addysg rhad ar gyfer y tlodion. Yn wir, tueddai i gredu taw peryglus fyddai cyflyru eu meddyliau a chodi eu gobeithio uwchben eu cyraeddiadau’!

Ond ymwelodd â Ffrainc yn 1792 yn fuan ar ôl Morgan John Rhys. Aeth yno, ar wahoddiad Llywodraeth Ffrainc, helpodd lunio Cyfansoddiad yn sgîl y Chwyldro. Ac am hyn gwnaed ef yn Ddinesydd Anrhydeddus.  Roedd yn ffrind i Benjamin Franklin a phobl enwog eraill ei gyfnod. Ond efallai mai am sefydlu’r Literary Fund   (a ddaeth wedyn yn Royal)  y mae’n fwyaf enwog, sefydliad a gynigai nawdd ar gyfer awduron tlawd.

Rhigwm amdano a erys yw,

  

Ewa fawr, o Loeger,

  A’i got fawr, a’i standin’ coler’    

  (‘ewa’ mae’n debyg yn golygu ‘ewythr’)

 

Mae GarethPierce yn cymryd hyn fel cadarnhad mai fel gŵr a Seisnigeiddiwyd  yr ystyrid David Williams. Ac yn bellach, “mai nid rhyfedd felly na chafodd ei waith athronyddol ac arloesol ym meysydd crefydd, addysg a gwleidyddiaeth lawer o sylw yn Nghyrmu.”