Senghenydd neu Senghennydd?
Bu cau’r dafarn y “Con Club” sef clwb y Ceidwadwyr neu’r Torïaid yn Senghenydd, yn dristwch i rai ond mater o orfoledd, efallai i eraill. Wrth ddymchwel yr adeilad collwn esiampl fyw iawn o’r modd yr ysgrifennwyd yr enw ar flaen yr adeilad yma, ‘Senghenith’, yn 1903. Bu cryn ddadlau, ar hyd y blynyddoedd, nid yn unig o sut y dylid sillafu’r enw ond, yn wir, ei ystyr.
Enw’r cantref a orweddai rhwng yr afonydd Tâf a’r Rhymni oedd Senghenydd. Yn 1891 dechreuodd yr Universal Company suddo pwll glo ym mhen uchaf cwm yr Aber. Wedi cryn anawsterau daethpwyd ar draws gwythïen dda o lo yn 1893 ac ymlaen â’r gwaith o agor pwll. Enw’r pentref newydd, wrth gwrs, oedd Senghenydd a sefydlwyd cymuned a daeth yn enwog iawn, am y rhesymau anghywir Achos hanes trist sydd i’r pentref gan i nifer o ddynion a bechgyn gael eu lladd mewn dwy danchwa yn yr Universal. Collwyd 81 o ddynion a bechgyn ynghyd â nifer o geffylau yn 1901. Ond er i achos y danchwa hon ddod yn amlwg ni wnaed unrhyw welliannau i’r amodau gwaith a’r canlyniad hyn oedd i 439 arall golli eu bywydau mewn tanchwa yn 1913. (Gweler y manylion isod.)
Gellid fod wedi defnyddio enw’r nant leol, sef Nant y Parc yn enw ar y pentref newydd. Ond gan fod Cwmparc ger Treorci yn y Rhondda Fawr teimlwyd fod y ddau enw’n rhy debyg i’w gilydd. Beth bynnag, pan gafodd y pentref ysgol gynradd newydd, Nant y Parc enwyd honno – gan unioni’r cam.
Mae H.P.Richards yn ei gyfrol, ‘History of Caerphilly’ yn mynnu mai Sant Cenydd yw tarddiad yr enw. Gwêl y ffaith fod bedd y sant hwn yn eglwys Llangennith/ Llangenydd (Llan + Cenydd) ym Mhenrhyn Gŵyr a’r ffaith bod eglwys Rhosili gerllaw wedi’i chysegru i Sant Ffili, yn cadarnhau mor agos yw’r cysylltiad rhwng yr enwau Caerffili a Senghenydd.
Mae nifer o ysgolheigion yn anghytuno’n gryf â hyn. Yr eglurhad amgen yw bod yr “ydd” ar y diwedd yn cyfeirio at dir arweinydd ac mai’r arweinydd yma oedd ‘Senghen’ er nad oes gofnod o un o’r enw hwnnw. Os am ddilyn y ddadl resymu manwl am darddiad yr enw cyfeirier at erthygl wych D.G. Parry, Abertridwr, “On the Etymology of Senghenydd” yn “The Journal of the Caerphilly History Society”, Rhif 2, Hydref 1970.
Tanchwa Senghennydd
Fore’r 14eg o Hydref 1913 rhwygodd wal farwol o dân drwy dwneli ac wynebau glo pwll glo’r Universal yn Senghennydd. Doedd dim byd newydd yn hynny. Roedd poblogaeth y pentref newydd hwn yn hen gyfarwydd â thrychinebau - er nad oedd y gymuned glos eto wedi dathlu’i phen blwydd yn ugain oed. Do, aethpwyd drwy’r torcalon, na ŵyr neb ond trigolion y meysydd glo amdano ddeuddeg mlynedd ynghynt. Yno, yn 1901 lladdwyd 61 o ddynion a bechgyn wrth iddynt lafurio yn y tywyllwch a’r budreddi oedd cymaint rhan o’u bywydau beunyddiol.
Faint oedd wedi trengi y tro yma? A pam oedd hyn wedi digwydd drachefn wedi’r ymchwiliad a’r addewidion a gafwyd yn ystod ail flwyddyn y ganrif newydd? Daeth yr ateb i’r cwestiwn cyntaf yn oeraidd amlwg ymhen bach iawn o amser. Daeth yr ystadegau moel, dideimlad i ymwybyddiaeth y genedl a’r byd: roedd 439 o ddynion a bechgyn wedi darfod ym mlodau eu dyddiau. Roedd y ffigyrau hyd yn oed yn waeth na’r disgwyl. Roedd darogan y byddai’r gyflafan yn eithafol pan welwyd bod yr offer weindio ar ben y pwll wedi’i chwalu a’i daflu i fyny i’r awyr fel corcyn yn saethu allan o botel bop wedi’i siglo’n ddidrugaredd.
Ond beth oedd yr ateb i’r ail gwestiwn? Pam oedd hyn wedi digwydd eilwaith? Gwyddys bod nwyon peryglus iawn yn yr Universal, hyd yn oed yn fwy tanllyd na’r rhai a gaed fel arfer mewn glofeydd. Dangosodd yr archwiliad i mewn i drychineb 1901 mai’r hyn a wnaeth pethau’n waeth oedd y llwch yn yr awyr. Achoswyd mwy na mwy o lwch am fod tramiau’n cael ei gorlenwi, a’r glo oedd yn sarnu oddi ar y tramiau yn cael ei chwalu dan olwynion haearn y tramiau, gan lenwi’r awyr â llwch du. Roedd hyn, wrth gwrs, yn cyfrannu’n sylweddol at salwch yn ysgyfaint y gweithwyr yn ogystal â bod yn fodd o wneud unrhyw danchwa cymaint yn fwy difrifol.
Argymhellwyd y dylid gosod ochrau uwch i’r tramiau ond ni fu unrhyw frys i weithredu ar yr argymhellion - yn wir, bach iawn a wnaed yn ystod y deuddeng mlynedd - ond dyna ni, dim ond bywydau pobl gyffredin oedd yn y fantol!
Ni ellir amgyffred â maint y galar a’r dioddefaint. Ond bu i’r diweddar John Brown, yn ei gyfrol wych, The Valley of the Shadow, geisio darlunio a mesur maint y golled drwy ddangos y nifer o fywydau a gollwyd mewn strydoedd unigol; sut bu i ambell fam nid yn unig golli gŵr a mab ond hefyd iddi orfod galaru dros golli brawd neu frawd yng nghyfraith a neiaint; ac yna geisio amgyffred, ar ben hynny, ar gladdu cymdogion a chyfeillion. Mae’n dda nodi i ferch John Brown ganiatáu i’r Gymdeithas Hanes ail argraffu’r llyfr wedi i gopïau’r argraffiad cyntaf fynd yn brin iawn.
Da o beth yw bod gwasanaethau coffa pob blwyddyn ym mynwent Penyrheol ac yn yr Ardd Goffa ar safle’r Universal. A bod plant ysgol ymhlith y rhai sy’n cofio’r trychinebau - plant sydd bellach o’r braidd yn gwybod beth yw cnepyn o lo heb sôn am gynhesu’u hun o flaen tanllwyth o dân!