Llywelyn Bren c. 1270 – 1317
Roedd Llywelyn Bren, Llywelyn ap Gruffydd, yn un o ddisgynyddion Arglwyddi Senghennydd gan gynnwys, wrth gwrs, Ifor Bach. Ond er nad oedd ei orchestion mor feiddgar â rhai o eiddo ei rhagflaenydd enwog mae lle i gredu ei fod wedi bod yn llawer iawn mwy dylanwadol. I ddechrau roedd cwmpas ei ddylanwad llawer iawn ehangach ac yntau’n ymladd dros hawliau Morgannwg gyfan.
Bu Llywelyn yn ymgyrchu yn erbyn yr annhegwch a ddioddefai’r Cymry drwy law'r Normaniaid. Deisebodd y brenin, yn groes i ddymuniad ei wraig Lleucu, a chytunwyd i leddfu nifer o faterion wedi i Edward II sylweddoli bod gwrth ryfel yn y tir. Credir i gymaint â10,000 o’i gydwladwyr ymuno â Llywelyn pan ddechreuodd ymgyrchu. Dechreuodd y gwrthdaro yng Nghaerffili gydag ymosodiad ar y castell. Dywedir i dri ar ddeg o ddynion gael eu lladd a charcharwyd Siryf Morgannwg, William de Berkolles ac eraill. Gwnaed difrod i bont godi a phrif borth y castell.
Pan roddodd Llywelyn a’i ddau fab y gorau i’w hymgyrch yn 1316, gan ildio i de Bohun yn Ystrad Fellte mae’n debyg iddo resymu, “Gwell bod un person yn marw nag i’r holl bobl gael eu halltudio neu ddarfod dan y cleddyf.” Apeliodd i de Bohun am drugaredd ar ei ran, ac ar yr 16eg o Fawrth aethpwyd â Llywelyn, ei wraig Lleucu a’r meibion Gruffydd, John, Dafydd, Meurig a Roger i Dŵr Llundain.
Derbyniodd bardwn gan Edward II. Yn ddiweddarach perswadiodd Hugh Despenser, arglwydd newydd Morgannwg, y brenin i adael iddo gael gofalaeth o Llywelyn ond wedi i’r brenin ildio fe laddodd Despenser Llywelyn mewn modd creulon iawn yng Nghaerdydd. Talodd Despenser ei hun am hyn flynyddoedd yn ddiweddarach pan gafodd ei ddienyddio yn Henffordd am droseddau oedd yn cynnwys y modd annynol y lladdodd Llywelyn.
Er ei ymgyrchoedd rhyfelgar deallwn mai gŵr diwylliedig oedd Llywelyn Bren. Yn ei gartref dywedir bod llyfrau ar gyfraith Cymru a llyfrau yn yr iaith Ffrengig. Mae’n bosib iddynt gynnwys copi o’r gerdd Roman de la Rose y credir iddi ddylanwadu ar Ddafydd ap Gwilym. Roedd ei bencadlys yn Nhwyn y Castell ger yr eglwys yng Ngelligaer. Cyfeiria Gareth Pierce ni i Dwyn Castell yn ei lyfr “Nabod Cwm Rhymni” fel hyn,
“Mae’r hen heol trwy bentref Gelligaer yn troi heibio i dalcen yr eglwys. Ar yr heol hon, Castle Hill, y saif Swyddfa’r Post. Os edrychwn i’r dde wrth ddechrau dilyn yr heol hon ar i waered fe welwn domen fechan â choed ar ei chopa. Dyma Dwyn Castell, safle castell Cymreig o’r cyfnod Normanaidd, wedi ei gynllunio ar batrwm y gaer fewnol yng nghastell Caerdydd.” Credir mai castell Llywelyn Bren oedd hwn
Gweler “Ein Hanes, Ein Llyfr – Llywelyn Bren” gan Dr Elin Jones ac eraill