Lewisiaid y Fan

wch i waelod Van Road yng Nghaerffili o gyfeiriad y Twyn ac fe ddewch at i Ystâd Ddiwydiannol Caerffili ar y dde. Trowch i’r chwith gan gerdded drwy dai newydd Plas Tŷ Mawr ac fe gyrhaeddwch Blasty’r Fan. 

Bu sefydliad yma ers y bymthegfed ganrif, a’r adeilad hwnnw ym mhlwyf Bedwas. Mae Gareth Pierce yn sôn am gyfeiriad i’r lle mor bell yn ôl â 1415. Ymwelodd yr hynafiaethydd Leland yno tua 1536 ac mae ei dystiolaeth yn dweud tipyn am yr ardal yn ogystal ag am y Fan,

“In Iscaeach is Caerphilly Castle set among marches, where ruinous walls of a wonderful thickness, and tower kept for prisoners as to the chief hold of Senghenydd......There is within half a mile of Caerphilly by east a fair place called the Van where Mr Edward Lewys dwelleth. Other Gentlemen of any fame be not in all Senghenydd saving David Richard dwelling at Gelligaer in Uwchcaeach and Matthew ap Rees Vychan at Gelligaer parish also.” 

 Erbyn dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg roedd teulu’r Fan wedi dechrau defnyddio’r cyfenw Lewis, pan ddechreuodd Edward Lewis mab i Lewis ap Richard, a fu’n gwnstabl castell Caerffili ei arddel.  Ganol yr unfed ganrif ar bymtheg ychwanegwyd tiroedd Craig yr Allt, Genau’r Glyn a thiroedd yng Nghwm yr Aber at yr ystâd. 

Ddiwedd y ganrif honno cafodd y Lewisiad les ar gastell Caerffili gan Iarll Penfro, a buont yn defnyddio cerrig o’r castell i ymestyn y plas. (Lle arall a adeiladwyd drwy ddefnyddio’r cerrig hefyd oedd tŷ offeiriad eglwys y Santes Elen, er i lawer o bobl eraill ddefnyddio’r deunydd yn answyddogol!) Gyda’r Lewisiaid yn ddisgynyddion Arglwyddi Senghennydd efallai iddynt fwynhau dadfeilio’r hen gaer fel hyn drwy ddial ar ran Ifor Bach ac eraill! Ond mae tystiolaeth i’r Lewisiaid hefyd gynnal eisteddfodau yn neuadd y plasty, yn wir roedd ganddynt hanes anrhydeddus o noddi beirdd ac iddynt, ar un adeg, gyflogi tiwtoriaid i ddysgu Cymraeg yn ogystal â Ffrangeg a Lladin i’w plant.     

  Dilynodd Edward Lewis arall (1560 - 1623) Thomas Lewis ac fe’i gwnaed yn farchogion gan James I yn 1603. Dyma pryd yr ychwanegwyd tiroedd a chastell Sain Ffagan a thiroedd Gilfach Fargod at yr ystâd.  Nawr roedd y teulu yn treulio mwy a mwy o amser yng nghastell Sain Ffagan. Thomas Lewis, a fu fawr yn 1736, oedd y gwryw olaf i etifeddu’r ystâd. Priododd ei ferch Elizabeth ag Iarll  Plymouth  gan uno rhannau helaeth o ystâd y Lewisiaid ag ystâd Plymouth. A dyma, yn y pen draw, drwy ddod yn dirfeddianwyr mor sylweddol y llwyddon nhw i elwa cymaint oddi wrth y Chwyldro Diwydiannol yn yr ardal. 

O deulu Iarll Penfro, yn y pen draw, daeth Ardalyddion Bute sef perchnogion presennol castelli Caerdydd a Chaerffili a llawer iawn o dir yn hen ardaloedd Sir Forgannwg, Sir Fynwy a Dinas Caerdydd.

  Gellir gweld y colomendy neu ‘Columbarium’ enwog sydd yno lle cedwid colomennd ar gyfer eu bwyta yn hytrach na fel adar rasio. Bu’r hen blasty yn adfail am lawer o flynyddoedd a dirywiodd mwy dan dywydd gaeaf mawr 1947 ond cafodd ei adfer a’i droi  gartref moethus iawn. Erbyn hyn mae’n westy a bwyty crand.