John Frost (1784 – 1877)

Cymro Cymraeg, aelod gyda’r Annibynwyr, a aned yng Nghasnewydd oedd John Frost. Wedi ysgrifennu a dosbarthu taflenni fe’i gyrrwyd i garchar am enllib nes iddo, yn y diwedd, rhoi’r gorau i’w fusnes fel crydd yn y dref yn 1823 er mwyn ymroi i wleidyddiaeth leol. 

Tua diwedd yr un wyth  tri degau ymunodd â’r Siartwyr. Roeddent yn gryf yng Nghasnewydd a’r cymoedd cyfagos. Roedd y mwyafrif ohonynt yn Gymry Cymraeg. Cododd mudiad y Siartwyr oherwydd annhegwch a deimlai’r dosbarth gweithiol, yn enwedig yn yr ardaloedd diwydiannol.  Roedd y “Siarter” yn gofyn am chwe pheth, 

o   Yr hawl i bleidleisio ar gyfer pob dyn

o   Y senedd i’w hethol yn flynyddol

o   Hawl i’r sawl nad oeddent yn berchen ar dir allu sefyll etholiad i fod yn Aelod Seneddol

o   Aelodau Seneddol i dderbyn tâl fel y byddai rhai nad oedd yn  gyfoethog yn gallu bod yn A.S.  

o   Pleidleisio cyfrinachol

o   Rhanbarthau neu etholaethau seneddol i fod yn gyfartal o ran maint.

 
 Er na welodd y Siartwyr eu hunain wireddu’r amcanion hyn daeth pob cynnig i rym erbyn dechrau’r ganrif ddiwethaf ac eithrio senedd flynyddol, wrth gwrs. 

  Does dim sicrwydd i Frost gytuno gyda’r awydd i ddefnyddio dulliau milwrol i ymladd dros  eu hawliau ond gwelai mwyafrif y Siartwyr mai dyna sut y llwyddodd y Chwyldro yn America ac yn Ffrainc.   Y cam cyntaf, felly, oedd i  rai miloedd o Siartwyr gynllunio ymosodiad ar Gasnewydd o’r 3ydd i’r 4ydd o Dachwedd 1839 gyda’r bwriad wedyn o ymosod ar drefi eraill megis, Caerdydd, Trefynwy, a’r Fenni. Roedd tair carfan i ymosod ar Gasnewydd o Bont-y-pŵl a Nant-y-glo dan arweiniad Zephaniah Williams a William Jones a Frost ei hun yn arwain y fintai o’r Coed Duon. Roedd y colofnau i ddod ynghyd yn ymyl Rhisga am 10 yr hwyr a chyrraedd Casnewydd yn oriau mân y bore. Mae Gwynfor Evans yn mynd ymlaen i ddweud yn ei gyfrol ‘Seiri Cenedl, “Oherwydd llawer o gamddeall a chamsynied, ni chyrhaeddwyd y dref hyd naw y bore, wedi bod am ddeuddeg neu bymtheg awr ar y ffordd yng nghanol y glaw mawr. Collwyd mantais y tywyllwch ac roedd y Maer ac arweinwyr y dref wedi ymgynnull yn ddisgwylgar, gyda milwyr y 45fed Gatrawd, yng Ngwesty’r Westgate.”  

Diwedd y gân oedd i ugain o’r Siartwyr gael eu lladd ac er i’r Maer a rhai  o’r milwyr gael eu clwyfo, ni laddwyd yr un person o’r ochr arall.  Llwyddodd nifer o’r capteiniaid ac arweinwyr eraill ddianc. Dihangodd Dr William Price i Baris mewn gwisg menyw!  Ond cafodd 125 o’r Siartwyr eu dwyn fel carcharorion  o flaen eu gwell. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd enfawr i’r prawf a gwisgodd y Barnwr ei gap du wrth ddedfrydu’r arweinwyr, John Frost,  Zephaniah Williams a William Jones i farwolaeth ar gyhuddiad o deyrnfradwriaeth.  

Ond cafwyd ymgyrch nerthol yng Nghymru a Lloegr drwy gynnal cyfarfodydd  cyhoeddus a threfnu deiseb yn erbyn y penderfyniad. Nid oes neb yn gwybod yn iawn pam y cytunodd y Prif Weinidog leddfu’r ddedfryd. Efallai ei fod yn ofni mwy o brotestiadau a therfysgaeth. Ond, beth bynnag am hynny o fewn diwrnod rhoddwyd y tri ar fwrdd llong yng Nghas-gwent a’u gyrru i Awstralia.

Cafodd Frost bardwn diamodol yn 1856 a dychwelyd adref lle cafodd groeso gwresog. Dywedir bod torf o 20,000 wedi dod i Lundain i ddangos eu hedmygedd ohono. `