Islwyn William Thomas (1832 – 1878)
Soniwyd eisoes am y diwylliant oedd yn ffyniannus yng Nghwm Sirhywi yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Un a fanteisiodd ar y diwylliant hwn oedd y bardd Islwyn. Ef oedd degfed plentyn Morgan a Mary Thomas, Tŷ’r Agent ger Ynysddu. Mesurwyr tir a pheirianwyr oedd ei ddau frawd a bwriad ei dad oedd iddo yntau ddysgu’r un grefft ond doedd ei galon ddim yn y gwaith.
Yn fachgen eiddil ei iechyd ymddiddorai yn gynnar iawn mewn barddoniaeth Saesneg. Ond dylanwad mawr arno'r adeg honno oedd ei frawd yng nghyfraith, y Parchedig David Jenkins. Hwn oedd gweinidog Capel y Babell, capel sy’n dal i sefyll rhwng pentref Cwmfelinfach a llwybr cerdded Cwm Sirhywi heb fod yn bell o ganolfan addysg Ynys Hywel. Bu ymgais i greu rhyw fath o amgueddfa i gofio Islwyn yma a gellir ymweld â’r lle ond gwneud trefniadau o flaenllaw i gael yr allwedd.
A David Jenkins fu’n fodd o gysylltu Islwyn â’i athro barddol Aneurin. Doedd hyn ddim yn anodd gan fod tad Islwyn a Siôn Jones, tad Aneurin, ill dau yn flaenwyr yn y Babell. Credir mai ei frawd yng nghyfraith hefyd fu’n gyfrifol am awgrymu enw’r mynydd fel enw barddol ar ei gyfer. A dweud y gwir bu iddo ddau athro barddol. Yn ogystal ag Aneurin roedd Gwilym Ilid sef William Jones, Machen hefyd wedi bod o gymorth iddo. Cymaint oedd ei edmygedd o Aneurin, beth bynnag, fel y dywedid iddo felltithio Columbus am ddarganfod America, lle ymfudodd ei athro barddol! Credir mai at Aneurin y cyfeiriai yn ei gerdd ramantaidd ‘Preswylfa’r Bardd’,
Ar lannerch rhwng eurlwyni
Mewn bro fras, mwynber fri,
Rhwng cangau a blodau blydd
Y gwanwyn, trig awenydd.
Efallai mai ei gerdd fwyaf yw ‘Y Storm’. Dywedir mai’r dylanwad mawr arno wrth gyfansoddi’r gerdd hir hon oedd marwolaeth ei gariad Anne Bowen o Abertawe. Bu ei gariad yn gysgod dros weddill ei fywyd, hyd yn oed wedi iddo briodi Martha Davies, merch arall o Abertawe, yn 1864. Yn wir, geiriau olaf Islwyn ar ei wely angau oedd, “Diolch i ti, Martha, am y cyfan a wnest i mi. Buost yn garedig iawn. ‘Rwyf yn mynd at Anne ‘nawr.”
Y tyndra arall yn ei fywyd oedd ei fagwraeth ar aelwyd Saesneg ei hiaith a’i angerdd tuag at farddoniaeth Gymraeg. Fe’i hordeiniwyd gan y Methodistiaid Calfinaidd yn 1859 ac er iddo aros yn ei fro, yn bregethwr, gwrthododd gymryd gofalaeth unrhyw un eglwys.
Dywedir iddo ddechrau ysgol farddol newydd, ‘Y Bardd Newydd’ er ei fod yntau’n amharod i gydnabod hynny, a cheisiodd llawer ei ddynwared gan ddefnyddio’r un themâu ag e. Mae llawer wedi’ feirniadu am fod â chyn lleied o themâu a thestunau ar gyfer ei gerddi. Roedd y rhain yn cynnwys yr haul, y lleuad, y sêr y Ddaear a’r Ffurfafen, y moroedd a’r mynyddoedd, Dyn a Duw. Prin y gallai unrhyw fardd fod wedi defnyddio ehangach cynfas neu dreiddio i fwy o ddyfnder.
Os am wybod mwy am y cymeriad diddorol yma cyfeiriwch, fel y gwnaed ar gyfer yr erthygl yma, at “Islwyn, Man of the Mountain” (1983) gan Meurig Walters; “Aneurin Fardd” traethawd gan Dafydd Islwyn yn y gyfrol am Ebwy, Rhymni a Sirhywi yng Nghyfres y Cymoedd sydd dan olygyddiaeth Hywel Teifi Edwards a hefyd y ‘Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (gol. Meic Stephens).