Ifor Bach
Dyma un o gymeriadau mwyaf lliwgar ac enwog Sir Caerffili. Roedd Ifor ap Meurig, i roi iddo ei enw llawn, yn Arglwydd Senghennydd.
Na, nid Senghennydd, y pentref a sefydlwyd pan suddwyd gwaith glo yn yr ardal yn yr 1890au ar ben uchaf Cwm yr Aber. Ond, yn hytrach y Cantref a orweddai rhwng yr afonydd Taf a’r Rhymni o’r môr ger Caerdydd hyd at ben y mynydd uwch Pontmorlais ym Merthyr Tudful. Yn wir, roedd Caerdydd yn un o gymydau Senghennydd! Rhyfedd meddwl am Gaerdydd fel rhan o Senghennydd! Roedd cwmwd Uwch Caeach uwchben nant Caeach yn Ystrad Mynach. Yna i fyny i Bontmorlais; Is Caeach o’r un nant hyd ben Mynydd Caerffili; yna Cibwr o ben y mynydd i lawr i’r môr - Caerdydd erbyn heddiw. Gellir gweld nant Caeach yn llifo yn agos i Ysgol Bro Allta yn Ystrad Mynach
Roedd heddwch anesmwyth iawn rhwng y Cymry i’r gogledd o Fynydd Caerffili gan mai’r Normaniaid a meddiannau Cibwr yn amser Ifor Bach. Ceisiodd Iarll William ddwyn mwy o dir ac eiddo oddi wrth y Cymry. Felly, yn 1158, aeth Ifor Bach a chriw bychan, ar noson dywyll, i lawr i Gibwr o Is Caeach. Aethant ag ysgolion ysgafn gyda nhw a’u defnyddio i ddringo waliau castell Caerdydd liw nos. Heb yn wybod i neb fe gipion nhw William, Iarll Caerloyw, ei wraig a’u plentyn nôl i’w hochr nhw o’r ffin. Wedyn fe’i cadwyd yn wystlon hyd nes i’r Iarll gytuno i ddychwelyd yr holl eiddo a feddiannodd ac addo na fydden nhw’n amharu ymhellach ar y Cymry. Dychwelwyd y tri’n ddiogel i Gibwr.
Ond dial wnaeth y Normaniaid pan gipion nhw Ifor drachefn gan ei arteithio cyn ei ladd yn ddiseremoni.
Cofir ei enw mewn sawl safle. Mae Ysgol Ifor Bach, a fu ym mhentref Senghenydd bellach wedi ymgartrefu mewn adeilad newydd sbon yn Abertridwr. Yn ardal Penyrheol yng Nghaerffili ceir Ysgol Cwm Ifor ac. Yna uwchben Merthyr yn ardal Pontmorlais gwelir tafarn Pant Cad Ifor. Gair arall am frwydr yw cad ond ni wyddys pa ymladd bu yno ym Mhantysgallog.