Gwenynen Gwent
Augusta Waddington Hall, Arglwyddes Llanofer (1822 – 1896)
Llawenydd mawr i wladgarwyr yw gweld Ysgolion Cymraeg ffyniannus yn y Fenni ac yn Ysgol y Ffin. Y ddwy mewn ardaloedd lle mai prin y bu seiniau’r Gymraeg ers llawer blwyddyn. Ond nid felly y bu hi. Oherwydd bu Gwenynen Gwent, fel y gwelwch wrth y dyddiadau uchod, fyw yn ystod pob un degawd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. A gweithiwr di baid dros y Gymraeg y bu hi.
Pan sefydlwyd Coleg Llanymddyfri hi brynodd y tir a hynny ar yr amod mai Cymraeg fyddai cyfwng yr addysg. Yn yr un modd gwaddolodd gapeli ar yr amod mai Cymraeg fyddai iaith eu gwasanaethau. Daeth yn aelod brwd o Gymreigyddion y Fenni Hi, hefyd, gefnogodd weledigaeth Carnhuanawc, ficer Cwm-du, i sefydlu Eisteddfod y Fenni a fu’n un o ddigwyddiadau mwyaf blaengar y diwylliant Cymraeg yn ystod y ganrif honno. Manteisiodd ar ei safle cymdeithasol i gael llawer o dirfeddianwyr yr ardal i gefnogi’r eisteddfod ac i ddod ag ymwelwyr blaengar i ymddangos ynddi. Roedd Charlotte Guest, cyfieithydd y Mabinogion yn un. Ac un arall a dynnodd i mewn i gylch ei gweithgareddau oedd Syr Charles Morgan o Dredegar, a thŷ Tredegar wedi hynny. Bu e’n Llywydd Cymreigyddion y Fenni, yn un a oedd yn ddisgynnydd i Ifor Hael, o Faesaleg, noddwr Dafydd ap Gwilym.
Dywedir iddi drefnu gwobrau mawr o hyd at gan bunt am draethodau. Dychmygwch hynny dros gant o flynyddoedd yn ôl! Roedd yr eisteddfod yn wirioneddol fawr. Dywedir i hyd at bedwar cant o gerbydau boneddigion ddod â’u teuluoedd, esgobion, aelodau seneddol, beirdd, llenorion, ysgolheigion ac ymwelwyr nodedig o dramor i’r Ŵyl. .
Dysgu Cymraeg wnaeth Augusta drwy ymweld â ffermydd ar dir ei thad ar adeg pan oedd y rhan fwyaf o’r tenantiaid hynny nid yn unig yn siarad Cymraeg ond, dywedir bod nifer ohonynt yn uniaith Gymraeg. Trefnodd ei chartref yn ôl traddodiadau’r fro. Doedd neb i siarad Saesneg ar yr ystâd er nad oedd ei Chymraeg hithau yn gryf iawn. Mynnai bod y gweision a’r morynion yn gwisgo’n draddodiadol a dywedir bod disgwyl iddynt wisgo’r wlanen Gymraeg hyd yn oed yn ystod tywydd poeth yr Haf.
Hi fynnodd mai’r dillad a wisgai ei morynion oedd y wir wisg draddodiadol Gymraeg. Ac iddi hi mae’r diolch am y traddodiad a amlygir ar Ddydd Gŵyl Ddewi o wisgo begwn o wlanen Gymraeg a’r het dal ddu. Wedi llunio’r wisg fe’i gwnaeth yn ffasiynol mewn ymdrech i wneud pethau Cymreig yn ddeniadol a hefyd er mwyn hybu’r fasnach wlân fel rhan o’i hymgais i gryfhau’r economi wledig. Fel un a wyddai lawer iawn am goginio cyhoeddodd y llyfr The First Principles of Good Cookery. Sefydlodd ffatri i wneud y delyn deir-rhes gan symbylu teuluoedd mawr i roi telynau teir-rhes drud yn wobrau. Am ei bod yn noddwr i bob math o draddodiadau Cymraeg enwyd ‘Dawns Llanofer’ er ei mwyn.
Priododd â Benjamin Hall o Abercarn un arall a fu’n ymladd achos Cymreictod ac yn un a frwydrodd dros yr hawl i gael gwasanaethau crefyddol yn ei iaith ei hun, ac mae’n debyg mai ef oedd y diwydiannwr cyntaf i ddatgysylltu o’r Eglwys wladol. Cafodd ei enw ei anfarwoli pan oedd yn gyfrifol am adeiladu’r tŵr ym Mhalas San Steffan yn Llundain, ac enwyd cloch y cloc ar ei ôl. Cofier mai’r gloch yw “Big Ben” ac nid y cloc!
Cafwyd y rhan fwyaf o’r wybodaeth uchod yn ‘Seiri Cenedl’ Gwynfor Evans a Chydymaith i Lenyddiaeth Cymru a olygwyd gan Meic Stephens.
(Gweler Carnhuanawc rhif 19 yn ‘Ein Hanes Ni’)