Evan James (1809 – 1878)

Ganed Evan yng nghanol tref Caerffili ychydig dros ddau gan mlynedd yn ôl.    Dywed  am ei fagwraeth yn nhref y castell,  a hynny yn nhafodiaith y Wenhwyseg, wrth gwrs,  “Yng Ngharffili o’n i pan geso i ngeni, ffatri wlân ’da nhed.  A ma lle cynnes i Garffili yn y nghalon i o hyd.  Mi sgwennas i un o ngherddi cynnar i weitha  gwlân Carffili, er a bod yn onast prin rwyn cofio’r lle, ond rwyn cofio gwynt y lle o hyd.  Arogla gwlân defad a’r tanerdy - gwahanol iawn i Bontypridd pan ethon ni yno maes o law.”

O Gaerffili symudodd y teulu i gadw tafarn yr  Hen Dderwydd yn Argoed yng Nghwm Sirhywi a’r Hen Felin wrth draphont Bargoed a gellir gweld adfeilion hon wrth y draphont ym Margoed. Yna aethant  i fferm Ffos yr Hebog. Gellir gweld y fferm hon yn glir iawn wrth yrru o Gelligaer tuag at Fochriw dros heol y mynydd. Yno ar yr ochr dde, ychydig wedi pasio’r heol sy’n arwain i lawr i’r Deri gellir gweld y fferm. Mae hon yn eithaf  hawdd i deithiwr ei hadnabod oherwydd yno cedwir bysiau cwmni Howells a gellir gweld y bysiau, yn enwedig y rhai deulawr, o bellter.

Mae sôn wedyn i’w chwaer briodi â Thomas Lewis o’r Hen Felin, Aberbargod .Ac felly mae cysylltiad awdur geiriau ein hanthem Genedlaethol ag ardal “Cwmni un sicr a diamheuol. Dywedwch hynny wrth wŷr Pontypridd!   

Ond ym Mhontypridd, wrth gwrs, y daeth i amlygrwydd a hynny fel bardd lleol uchel ei barch, ymhell cyn ennill enwogrwydd am ysgrifennu Hen Wald fy Nhadau. Credir iddo fynd yno yn wehydd yn 1844. Ei fab James ysgrifennodd yr alaw a bu hwnnw’n cadw tafarnau ym Mhontypridd ac Aberpennar.

Dyma fel y dychmygodd yr awdur Gwyn Griffiths, y bardd yn adrodd  hanes ysgrifennu’r anthem fyd enwog,  “Rhyfadd fal da’th yr hen benillion ’na i’r cof nawr weti dau canmlynadd.  Gwaith rhigymwr talcan slip, rwpath at iws gwlad, fuasa Dewi Alaw’n gwêd amdanyn nhw.  Mil, wyth, pum, whech, oddi hi, un o’r troeon dwetha welas i nhad cyn iddo fa farw.  Ro’dd blynydda ers o’n i’n byw yn Ffos-yr-hebog ar gomin Gelli-gêr.  A naw mlynadd ers i fi a’r teulu setlo ’Mhontypridd.  Ro’dd nhad a’m llysfam wedi’n dilyn ac yn byw yn ffermdy Troed-rhiw’r-trwyn.  Cetyn bach o wâc o’dd ’na o’r ffatri yn Mill Street lan ’na i gweld nhw.  Ac o’dd da fi bach o hanas wrth fodd y ddou y dwrnod ’ny.  Yn y steddfod lawr yn y Castell Ifor nosweth cyn ’ny mi ganws Jâms y crotyn hynna - Iago ab Ieuan i chi - Glan Rhondda, y gân nethon ni gyfansoddi gita’n gily ddechra’r flwyddyn … Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi…  Chi gyd - ma’r byd - yn gyfarwdd â hi erbyn hyn.  Mi gas a gymaradwyath a ro’dd plant y dre yn ’i whibanu boitu’r lle bora wetyn.  Gofynson ni i Mrs Davies, nymbar 13, i whare hi ar y piano i ni, a fe wetws hi, ‘Ardderchog, mi ddaw rhwpath o hon.’  O’dd hi’n itha reit …”

Mae hanesyn sy’n dweud i’r mab James fod yn cerdded un diwrnod ym mis Ionawr 1856 ar lan yr afon pan ddaeth alaw  Hen Wlad fy Nhadau iddo. Pan soniodd wrth ei dad am yr alaw cyfansoddodd Evan y geiriau a ddaeth yn anthem genedlaethol i ni. Cred eraill mai cael ei ysbrydoli gwnaeth Evan gan y ffaith i ddau o’i frodyr allfudo i’r Unol Daleithiau ac i hwythau ysgrifennu’n clodfori ei gwlad fabwysiedig gan annog Evan i ymuno â nhw. Ond canu i ragoriaethau Cymru wnaeth Evan yn y diwedd.

Mae nifer o hanesion difyr am Evan. Dywedir ei fod  yn hoff iawn o ganlyn y Derwyddon tra bu ei wraig yn ffyddlon yn y capel sydd bellach yn Amgueddfa'r drws nesa i’r Hen Bont ym Mhontypridd. A thra roedd Evan wrth ei bleser roedd ei wraig yn y capel yn gwrando ar y gweinidog yn condemnio gweithgareddau gan grwpiau fel y Derwyddon.

Codwyd cofeb i Evan a James James ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd yn 1930. Cerflun yw hwn gan yr enwog Syr Gascombe John a dywedwyd i 10,000 o bobl fynychu’r dadorchuddiad.   Ond yn fwy diweddar cofiwyd mai mewn tŷ yng Nghaerffili y ganed Evan ac mae plac bellach ar wal Neuadd y Gweithwyr yn Market Street, lle safai’r tŷ y cafodd ei eni.  Hefyd, yn gymharol ddiweddar codwyd cofeb fwy teilwng iddo a’i osod ar ben uchaf maes parcio’r Twyn yng Nghaerffili.

(Mae’r llyfr’The Welsh National Anthem” gan Sion Jobbins, yn rhoi mwy o hanes Evan a James James yn ogystal â hynt yr anthem. Ceir crynodeb o’r llyfr yn rhifyn mis Chwefror 2023 “Cwmni”)