Dr William Price (1800 – 1893)
Cysylltir enw’r arloeswr Dr William Price ag ardal Llantrisant ond yng ngwaelodion Cwm Rhymni y treuliodd ei ddyddiau cynnar. Fe’i ganed yn yr ardal a adweinir bellach fel Waterloo sydd rhwng Tretomas a Machen Isaf ar yr heol sy’n arwain i Rhydri. Bellach mae plac ar wal un o’r tai yn yr ardal i nodi’r ffaith iddo gael ei eni yno. Roedd ei dad yn offeiriad yn yr Eglwys, ac mae sôn amdano’n derbyn ei addysg yn fachgen bach yn yr ysgol ym Machen.
Daeth yn feddyg er iddo adael yr ysgol yn gynnar, Gyrrwyd ef at Dr Evan Edwards yng Nghaerffili lle bu am 5 mlynedd a dywedir mai yno y dysgodd Saesneg ynghyd â rhywfaint o Ladin. Yna, yn 1820, aeth i dderbyn hyfforddiant yn y Coleg Brenhinol i Lawfeddygon yn Llundain,
Roedd y gŵr unigryw hwn flynyddoedd o flaen ei amser gan gredu’n gryf y dylai pobl fwyta’n iach er mwyn osgoi afiechydon. Credai hefyd petai bobl yn ddigon anffodus i fynd yn sâl mai meddyginiaethau naturiol oedd orau iddynt. Yr hyn a elwir yn feddyginiaethau amgen y dyddiau hyn.
Roedd yn arloeswr mewn sawl cyfeiriad, yn un a fu’n weithgar dros famau dibriod, er nad phriododd ef ei hun. Roedd yn dipyn o ecsentrig o ran ei olwg o’r het croen llwynog ar ei ben hyd at wrthod gwisgo sanau! Gwisgai siaced wen, gwasgod ysgarlad a throwsus gwyrdd. Yn wir, gellir gweld y wisg hon bellach yn Sain Ffagan.
Wynebodd drafferthion oherwydd ei ddaliadau gwleidyddol ag yntau’n un o gefnogwyr cynnar y Siartwyr a dywedir i rywun arall â gwallt hir tebyg i Dr Price gael ei saethu gan filwyr oedd yn ceisio ei saeth ef. Oherwydd ei ddaliadau bu’n rhaid iddo ddianc i Ffrainc am gyfnod. Dywedir iddo ddychwelyd i’r wlad hon wedi’i wisgo fel menyw.
Gwrthwynebai grefydd gonfensiynol gan gredu ei fod yn un o ddisgynyddion y Derwyddon a bu’n cyd fyw â chymar, Gwenllïan Llywelyn, yn hytrach na’i phriodi. Fe’r harestiwyd hefyd yn 1884 am amlosgi ei faban pum mis oed. Roedd wedi enwi’r mab hwn yn Iesu Grist. Ond fe’i rhyddhawyd yn y pen draw ac erbyn hyn gwelir iddo weithredu’n arloesol gan ei bod yn arferol amlosgi cyrff y meirw erbyn hyn.
Yn arweinydd cynnar yn y frwydr am Wasanaeth Iechyd, cyflwynodd y Dr Price ei Wasanaeth Iechyd ei hun yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd hyn flynyddoedd o flaen ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlodd Cymro arall, Aneurin Bevan, yn 1947. Tua 1823 cynigodd wasanaeth i weithwyr Brown Lennox ym Mhontypridd. Bellach archfarchnad Sainsbury sydd ar y safle lle bu’r gwaith peirianneg a gellir gweld y siop ar yr ochr dde wrth deithio tua’r gogledd am Bontypridd ar yr A470. Cytunodd y gweithwyr dalu un (hen) geiniog yr wythnos o’u cyflog a phan fydden nhw neu unrhyw un o’u teulu’n sâl byddai’r meddyg yn rhoi triniaeth iddynt yn rhad ac am ddim. Bu’n feddyg iddynt am ryw hanner can mlynedd.
Ar y 31ain o Ionawr 1893 dywedir i dros 20,000 o bobl ddod i weld ei “angladd” pan amlosgwyd ei gorff ar Gae Caer-lan ger Llantrisant a cheir cerflun i gofio’i fywyd ar y Bull Ring yn Llantrisant. Mae’r ffaith mai yng Nglan Taf ym Mhontypridd y sefydlwyd amlosgfa flynyddoedd yn ôl yn deyrnged i’r arloeswr dewr hwn.