Castell Caerffili (c.1271)

Dechreuwyd adeiladu’r castell gan Gilbert de Clare  tua 1268 ac erbyn hyn hwn yw’r mwyaf ond un yn Ewrop, yn ail ond i gastell Windsor. Yn ogystal â’i faint, mae’n cynrychioli un o'r esiamplau gorau sydd mewn bod o amddiffynfeydd consentrig fel y gellir gweld gyda ffos a mur gwarchod pob yn ail

I ddeall y rheswm dros godi castell yng Nghaerffili mae’n rhaid mynd yn ôl i oresgyniad y Normaniaid. (Er bod gan y Rhufeiniaid gaer yma fil o flynyddoedd yn gynharach.) Fe lwyddodd y Norman goncro’r tir gwastad ger y môr ond peth arall oedd delio â’r Cymry yn eu cadarnleoedd yn y mynyddoedd. Rhennid cantref Senghennydd, rhwng Taf a Rhymni, i dri chwmwd â Chibwr. Nant Caiach, sydd yn rhedeg ochr yn ochr â’r heol o Ystrad Mynach i Nelson oedd y ffin rhwng is ac Uwch Caiach. Cibwr oedd lle saif Caerdydd erbyn hyn a oedd dan lywodraeth y Normaniaid, tra roedd Is ac Uwch Caeach yn nwylo’r Cymry. Ac roedd Caerffili, wrth gwrs, yn agos i’r ffin rhwng Cibwr ac Is Caeach.  Cododd Gilbert de Clare y castell am ei fod yn ofni’r gynghrair rhwng Llywelyn ap Gruffydd Ein Llyw Olaf a Gruffydd ap Rhys, rheolwr Senghennydd. Dinistriwyd y castell newydd rhwng yr 11eg a’r 13eg o Hydref 1270 ond ni fu de Clare yn hir cyn ennill Is Caeach nôl ac adeiladu ail gastell. 

Dadfeilio’n araf fu hanes y castell tan y ganrif ddiwethaf â’r cerrig yn mynd i adeiladu nifer o dai o gwmpas y dref. Yna, sylweddolwyd bod gwerth hanesyddol cynhenid i’r hen furddun ac aethpwyd ati i gynnal eisteddfodau a digwyddiadau eraill yn y Neuadd Fawr. 

Penderfynodd Ardalydd Bute fuddsoddi yn y safle. Roedd yntau, erbyn hynny, wedi gwneud elw mawr ar gefn y diwydiant glo a’i ddociau yng Nghaerdydd. Roedd digon o fodd ganddo, felly, i fynd ati i ddymchwel tai, siopau tafarn a chapel ar ochr ddwyreiniol y castell, lle wynebai Market St. Wedyn ail gododd clawdd rhwng y castell a’r dref a’i galluogodd i lenwi’r ffos â dŵr o nant Gledyr. Ynghyd â nifer o welliannau eraill o eiddo’r Ardalydd, cyrff cyhoeddus a grŵp o’r enw Ffrindiau Caerffili mae’r castell, bellach dan berchnogaeth CADW, yn atyniad sylweddol ac yn destun balchder i drigolion y dref. 

Yr Ardalydd hefyd aeth ati i ddatblygu Castell Coch sydd ar gyrion Tongwynlais.

Mae castell yng Nghaerffili
A gwely plu i gysgu
A lle da i whare wic
Wrth gefen Piccadilly.