Carnhuanawc
Thomas Price (1787 – 1848)
Un a weithiodd yn glos iawn â Gwenynen Gwent (Augusta Hall), testun yr erthygl flaenorol, oedd Carnhuanawc. Thomas Price, ficer Llanfihangel Cwm-du, sydd ym Mrycheiniog ond ar y ffin â Gwent, yw enw bedydd yr enwog Carnhuanawc. A fe ymhlith eraill a gafodd berswâd ar Wenynen Gwent i gefnogi eisteddfodau Cymreigyddion y Fenni. Roedd y rhain yn ddigwyddiad blynyddol o bwys rhwng 1834 a 1853 a dywed y Dr John Davies mai nhw yw’r ddolen gydiol rhwng eisteddfodau taleithiol a’r Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Dyma lun sy’n ymddangos wrth nodiadau am Carnhuanawc ar Wefan. Dywedir yn yr un man mai ef a ddysgodd Gymraeg i Augusta Hall ac iddi ei gymryd i mewn i’w chartref i fyw gyda hi yn ystod ei waeledd. Ni fu unrhyw fodd o gadarnhau’r wybodaeth hyn o unrhyw ffynhonnell arall.
Dengys y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru ei fod yn enedigol o Lanfihangel Bryn Pabuan, Sir Frycheiniog (Powys bellach) a derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Crist, Aberhonddu. Fe’i hordeiniwyd yn offeiriad yn Eglwys Loegr yn 1812 a bu’n gurad yn Llanfihangel Helygen a Chrucywel cyn derbyn bywoliaeth Llanfihangel Cwm-du
Sefydlodd ysgol Gymraeg ei hiaith yn Gelli Felen yn ei blwyf yng Nghwm-du yng ngogledd ddwyrain yr hen Sir Fynwy; a chredir mai hon oedd yr ymdrech olaf i sefydlu Ysgol Gymraeg hyd nes i Syr Ifan ab Owen Edwards ac eraill fynd ati i agor Ysgol Gymraeg yr Urdd yn Aberystwyth ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd.
Am ei gyfraniad aruthrol dros yr iaith a’r diwylliant Cymraeg, fe’i disgrifiwyd fel “gwladgarwr hynotaf ei gyfnod”. Diddordeb mawr arall o’i eiddo oedd y berthynas rhwng Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Yn fwyaf arbennig drwy'r cysylltiad â Llydaw y chwaraeodd rhan allweddol wrth berswadio’r Gymdeithas Feiblaidd i fynd ati i drefnu cyfieithiad Lydaweg o rannau o’r Beibl.
Dywed y Dr John Davies i Carnhuanawc alaru oherwydd i’r Cymry golli eu gwaed yn Bosworth mewn ymrafael am goron Lloegr, yn hytrach na dros ‘eu breintiau cynhenid fel trigolion Cymru’. Ledled Ewrop yn hanner cynta’r bedwaredd ganrif ar bymtheg bu gwŷr amryddawn egnïol - clerigwyr gan amlaf - a’u bryd ar roi urddas i ddiwylliant grwpiau ethnig (neu genhedloedd) difreintiedig ac yng Nghymru, Carnhuanawc yw’r enghraifft fwyaf llachar o’r ffenomenon hon. Dywedir mai ei gamp fwyaf oedd cyhoeddi ‘Hanes Cymru a Chenedl y Cymry o’r Cynoesoedd hyd at Farwolaeth Llywelyn ap Gruffydd’ ’(1836 - 1842).
Yn ffigwr amlwg yng ngweithgareddau Cymreigyddion Aberhonddu a’r Fenni bu’n un o’r personiaid llengar a fu’n eithriadol yn eu hymdrechion i wrthsefyll y dylanwadau Seisnig ar ddiwylliant Cymru. Bu’n gymorth i’r Fonesig Charlotte Guest pan fu hithau wrthi’n cyfieithu’r Mabinogion.