Caradog
“Wna i ddim plygu clun i’r un Ymerawdwr oherwydd rydw i’n frenin yn fy ngwlad fy hun.”
Ewch ar daith i fyny drwy dref Bargoed, drwy ganol y dref ac i lawr y pen arall heibio i’r orsaf. Yna yn lle dilyn yr heol heibio tafarn yr Hen Felin tuag at Aberbargoed, ewch o dan y draphont ar hyd Factory Road hyd nes cyrraedd yr Arucaria, neu’r Monkey Puzzle Tree. Mae’r heol i fyny Cwm Rhymni yn troi nôl mewn siâp pedol wrth fwrw ymlaen tuag at Gefn y Brithdir a’r Brithdir.
Ond ewch yn syth yn eich blaen a byddwch yn teithio ar hyd Cwm Ysgwydd Gwyn. Mae’r heol, ar ei ffordd i’r Deri, yn dod i Deras Groes-faen, enw sy’n ein hatgoffa o’r lofa a fu’n wynebu’r teras ac a fu’n cyflogi llawer o’r trigolion. Roedd y lofa yn wynebu’r teras gan ymestyn yn ôl i’r Heolddu ar ymylon comin Gelligaer.
Ar waelod Cwm Ysgwydd Gwyn fe welir olion ‘pompren’ a’r enw traddodiadol ar hon yw Pont Caradog. Pont garreg sydd bellach yn adfail yw hon. Ond bu yn bont ar gyfer teithwyr a cheffylau hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dywedir ei bod yn nodi safle hen ryd Silwraidd a Rhufeinig ar draws yr afon Deri. Tyfodd y chwedl i Caradog, brenin y Silwriaid, gerdded dros y bont honno. Ni wyddys a yw’r stori yn wir ond mae hi yn ein hatgoffa o un o gymeriadau pwysicaf ein hanes.
Un o bedwar llwyth Prydeinig oedd i Silwriaid, pobl â ‘wynebau tywyll a gwallt cyrliog’ a oedd yn byw yn yr ardal yr ydym ni yn ei hadnabod bellach fel tiroedd Gwent a Morgannwg .Roedd y Groes-faen, felly, yng nghalon y diriogaeth. Bu’r llwyth hyn yn un o’r rhwystrau mwyaf anodd a wynebai’r Rhufeiniaid wrth iddynt fwrw ati i goncro Cymru tua 48 O.C. Tad Caradog oedd Cynfelyn ac mae’n debyg mai mae hwn yw Cymbeline yn nramâu Shakespeare.
Bu’r Silwriaid yn un o’r rhwystrau mwyaf anodd a wynebai’r Rhufeiniaid wrth iddynt fwrw ati i goncro Cymru tua 48 O.C. Gwelir olion y goncwest ger castell Caerdydd; mae olion ar dir Tŷ Bryncenydd y tu ôl gastell Caerffili. A gwelwch gae mawr gwag y drws nesa i eglwys Gelligaer lle mae’r gwair a’r pridd yn gorchuddio gwersyll Rhufeinig. Draw yng Nghaerllion ar Wysg (Caerleon) gallwch weld baddon ac amffitheatr Rufeinig. A dyna pam mae enw pob un o’r mannau hyn yn dechrau gyda “Caer”
Trwy dwyll dywedir i’r frenhines Cartimandua rhoi Caradog, neu Caractacus, i ddwylo’r Rhufeiniaid. Aed ac e i Rufain lle bu’n rhaid iddo ddioddef gwawd y dinasyddion wrth iddo orfod cerdded drwy’r ddinas mewn cyffion. Dywedir, fodd bynnag, iddo gadwi’i urddas a thrwy hynny, ennill parch ei oresgynwyr. Deallwn iddo siarad â’r awdurdodau yn Rhufain mewn modd hyderus ac urddasol. Oherwydd hyn penderfynwyd peidio â’i ladd. Myn chwedloniaeth iddo fynnu ei hawliau yn unol â’r dyfyniad uchod. Deallir iddo, hefyd, fethu deall trachwant y sawl fynnai adeiladu ymerodraeth ac iddo ddweud wrthynt, yn blwmp ac yn blaen,
“Mae gyda chi’r holl diroedd hyn yn barod. Pam ydych chi eisiau meddiannu Prydain?