Capel Gwladys

 

Ewch i ben comin Gelligaer o gyfeiriad Ysgol Gyfun Heolddu a rhyw ddau gan llath ar yr ochr dde i’r heol, cyn i honno gyfarfod a Heol Adam, gwelwch adfeilion hen Gapel Gwladys. Yn wir, adwaenir y tir o gwmpas yr ardal hon fel Tir Gwladys. A pwy oedd y Gwladys yma meddech chi?

 Wel, roedd Gwladys yn un o nifer o blant Brychan, arglwydd Brycheiniog. Brychan, wrth gwrs rhoddodd i ni’r  enw “Brycheiniog”.  Roedd Gwladys hefyd yn un o chwiorydd  Tudful a fu’n gysylltiedig â’r sefydliad Cristnogol cyntaf ym Merthyr Tudful. Priododd Gwladys Gwynllyw Filwr un a gofir yng nghadeirlan Sant Woolos yng Nghasnewydd ac a roddodd ei enw i’r Ysgol Gyfun Gymraeg ym Mhont-y-pŵl.  

Pan wrthododd tad Gwladys iddi briodi Gwynllyw, dywedir i Gwynllyw fynd â 300 o filwyr i  gipio Gwladys o lys ei thad yn Nhalgarth a dod â hi i fyw i Foch Riw Carn, Fochriw i ni heddiw. Mab Gwladys a Gwynllyw oedd Cadoc ac mae’r eglwys blwyf yng Ngelligaer wedi’i henwi er cof amdano.

Credir mai Cadoc a Gwladys a arweiniodd Gwynllyw i roi’r gorau i ryfela ac i sefydlu  meudwyfa (hermitage) yn y man a adwaenir heddiw fel Stow Hill yng Nghasnewydd. Aeth yno i geisio maddeuant am ei bechodau.  Dilynodd Gwladys ef i fyw fel meudwy a buont yn byw gyda’i gilydd gan ymprydio ar  fwyd llysieuol ac ymolchi yn nŵr oer yr afon Wysg.  Cyn dod i Gelligaer mae’n debyg y sefydlodd Gwladys feudwyfa ym Mhencarn, Bassaleg ger Pont Ebwy.

Adeiladodd Gwladys ei chapel ar fynydd Gelligaer am  fod y safle yn agos i le y bu hi a’i gŵr yn byw. Credir mai yn ystod y Chweched ganrif oedd hyn ac roedd  mewn ardal oedd hefyd yn agos i roedd y Rhufeiniaid wedi bod cyn hynny. Daethpwyd o hyd i’r safle yn 1906 pan oedd yr awdurdod lleol yn edrych am safle ar gyfer mynwent newydd yn yr ardal.  Pan ddaethpwyd o hyd i garreg ac arni Groes Geltaidd penderfynwyd fod y tir yn fan cysegredig. Cludwyd y groes i eglwys Sant Catwg yng Ngelligaer ac wedyn i’r Amgueddfa Genedlaethol. Mae rhedyn bellach yn gorchuddio llawer o’r safle ond gellir gweld y groes o’r heol.   

 

Cydnabyddir “The Gelligaer Story” fel prif ffynhonnell yr erthygl hon.