Cledrau’r Cwm
Yn ystod canol y ddeunawfed ganrif, ac am bron i gant o flynyddoedd wedyn, roedd y trên yn frenin trafnidiaeth cymoedd De Cymru. Erbyn 1860 roedd llu o gwmnïau rheilffyrdd yn ymladd i gyrraedd porthladdoedd Hafren i allforio’r “aur du” - sef glo.
Yn ystod pymtheg mlynedd gynta’r ugeinfed ganrif gwelwyd uchafbwynt y diwydiant glo. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf roedd llai o alw gan y llynges am lo. Roedd oes yr olew wedi cyrraedd.
Bu eisiau trefn ar y cwmnïau yma. Yn lleol yn unig roedd cwmnïau Rhymney Valley Co., y Taff Vale Co., yr Alexandra (Newport Mon.) Dock and Railway Co.,Pontypridd, Caerphilly & Newport Co., y Cardiff Railway Co,, y Barry Dock and Railway Co., a’r Brecon & Merthyr Co. Roedd cwympo mas, rhyfela, weithiau cyd-weithio, a defnyddio cledrau ei gilydd. Daeth y cwmnïau hyn i gyd dan adain y Great Western Railway ar ddechrau’r 1920au (“Rationalisation” nid, wrth gwrs, “Nationalisation” a ddaeth yn n1947).
O’r cwmnïau lleol i gyd efallai'r un mwyaf unigryw oedd y Brecon & Merthyr. Mae cledrau’r cwmni yma yn dyddio o’r 1860au ac yn dechrau yn Aberhonddu a thrwy Merthyr ar ei ffordd i Gasnewydd, 47 milltir o dirwedd amrywiol iawn o ucheldir Brycheiniog i’r Hafren. Roedd y ffordd yn serth iawn mewn mannau a pheryglus i’r trenau glo ac yn sicr yn araf. Roedd y daith bron yn ddwy awr o un pen i’r llall. Roedd siwrne o’r fath siŵr o fod yn brofiad arbennig ond mae e wedi diflannu ers y 60au gwaetha’r modd.
Er ein bod ni’n methu mynd ar y cledrau, mae modd dilyn, neu o leiaf gweld arwyddion o’r hen lein. Gan fod y lein yn rhedeg hyd sir Caerffili mae modd ei dilyn, er y bydd y ddau ben y daith yn gorfod aros hyd nes ein bod yn gallu teithio y tu allan i’n sir.
Dechreuwn ein siwrne yn Lower Machen. Mae’r bont bwa dros yr hewl yn nodwedd cyn yr hewl syth sy’n mynd tuag at Gaerffili. Mae’r lein newydd orffen loop mawr i ennill uchder i fynd lan y cwm. Mae chwarel Machen yn dal i ddefnyddio’r hyd yma i gyrraedd Casnewydd. Ymlaen â ni i eglwys Lower Machen. Gwelwn bont uwch lan y tyle cyn i’r lein gyrraedd terasau Machen. Mae sawl pont i’w gweld yn mynd o dan yr hewlydd.
Ar ôl Machen, mae’r cledrau wedi diflannu ers dros hanner canrif. Dyma le mae ardal y glo yn dechrau. O hyn ymlaen mae eisiau bod yn “dditectif” neu “anorak” yn dibynnu ar eich agwedd. Olion pontydd, waliau a lefelau yw’r cliwiau. Roedd y lein yn dal i fod tipyn yn uwch na phrif hewl y cwm ac erbyn cyrraedd Bedwas roedd y lein lan wrth yr eglwys, uwchben y pentref, i’w gweld yn glir. Bedwas oedd yr orsaf olaf am dros dair milltir a hanner. Y ffordd orau wedyn yw dilyn Pandy Road. Mae’r rhan nesaf y lein wedi’i chuddio dan hen dip Trehir. Dyma ben arall traphont Pwllypant. Mae bwa wedi’i chuddio dan sbwriel y cwm, pechod os bu un erioed.
Ar y ffordd lan y cwm mae’r lein uwchben Pandy Road. Mae’r lefel wedi tyfu drosodd ers dyddiau’r trên stêm. Roedd rhaid cadw’r coed bant rhag ofn i’r tân gydio yn y tyfiant. Mae sawl pont i’w gweld ar y ffordd. Mae Pandy Road yn gorffen ym Maesycwmer ond rydyn ni’n mynd i droi i lawr i’r ffordd osgoi i’r goleuadau wrth Ysbyty Ystrad Fawr. Wrth fynd i lawr rydym yn croesi’r lein.
Ar y ffordd i mewn i Faesycwmer mae llwybr y trên uwchben ar y dde. Ers oes y trên mae’r pentref wedi newid llawer. Mae’r briffordd bresennol yn dilyn cwrs y lein, ond yn is, gyda’r hen hewl ar y dde. Roedd gorsaf Maesycwmer yr ochr draw i’r Maesycwmer Inn a chyn mynd o dan draphont Hengoed. Mae’r bwa olaf ar gam i wneud lle i’r trên. Roedd y lein yn dilyn yr afon Rhymni ar yr ochr a arferai fod yn yr hen Sir Fynwy. Pengam (Mon.) oedd yn dod nesaf, wedyn Fleur-de-Lis.
Mae’r cwm rhwng Bargoed ac Aberbargoed wedi newid yn gyfan gwbl gyda diflaniad y pwll glo a dyfodiad yr hewl newydd. Roedd y Brecon & Merthyr yn croesi’r cwm i ochr Morgannwg i fynd drwy orsaf Bargoed.
Mae’r lein nawr yn anelu tuag at Deri a Fochriw yng Nghwm Darran. Mae modd cerdded y lein o’r fan hyn ac mae e i weld yn glir uwchben yr hewl yn uchel du ôl i’r tai a welir ar y chwith yn Factory Road wedi dod o dan y draphont.
Ar ôl croesi’r afon yn Deri gwelir olion pont dros yr hewl. Nawr mae’r lein o dan yr hewl ac ar y dde. Ar yr hyd yma roedd gorsaf Deri a Darran cyn cyrraedd Parc Cwm Darran sydd ar safle hen bwll glo Ogilvie. Yn ddiweddar mae llu o bobol wedi disgyn ar y man arbennig yma. Dyma gyfle i gerdded mewn llecyn hyfryd o fewn cyffiniau ein sir. Arferai’r trên fynd ymlaen i Fochriw, Dowlais.......... ond mae’n rhaid aros yma ym Mharc Cwm Darran am y tro, beth bynnag.
Mary Jones