Camlas Morgannwg

 

 Mae’r A470 yn rhan o fywyd pawb yn ardal “Cwmni”: boed yn ffordd i’r gwaith, i siopa, i’r gogledd pell neu i’r Bannau. Pa mor bwysig bynnag ni’n ystyried yr A470 heddiw mae ffordd llawer mwy arloesol wedi’i chuddio o dan ei amdo o goncrit rhwng Caerdydd a Merthyr. Llofrudd ein gorffennol oedd 60au a 70au’r hen ganrif, ac felly y bu yn yr achos hwn hefyd. Datblygodd Merthyr ac Aberdâr eu diwydiannau haearn ddegawdau cyn dyfodiad rheilffyrdd a’r galw am byllau glo anferth y C19eg. Yn ystod ail ran 1700 roedd  Merthyr llawer yn fwy na Chaerdydd a oedd yn ddim byd ond castell a phentref pysgota ar lannau yr Hafren. Y broblem oedd symud cynnyrch y gweithfeydd haearn pob cam i lawr i’r arfordir i’w allforio neu ei yrru o gwmpas y wlad hon.

 Y broblem i Ferthyr oedd dau ddeg pump a hanner milltir gyntaf y daith i gyrraedd y môr. Mae cerbydau ag olwynion angen ffordd weddol wastad ac roedd Cwm Taf a Chwm Cynon felly yn bell ffordd o fod yn ddelfrydol. Bu ceffylau yn cario haearn mewn basgedi ar eu cefnau. Dyma ffordd anodd, beryglus ac araf, ond doedd dim dewis hyd nes dyfodiad y 1790au ac oes y camlesi.  Dyma beth yw’r dirgelwch sydd wedi’i orchuddio gan yr A470 - “The Glamorganshire Canal”.  Traffordd ei oes ac efallai'r newid mewn cludiant a wnaeth mwy o wahaniaeth nag unrhyw ffordd arall erioed. Cododd y gamlas 543 o droedfeddi trwy 51 loc ar hyd 25½ milltir.

 Richard Crawshay a Francis Homfray, perchnogion y gweithfeydd haearn, oedd yn ceisio codi arian ar gyfer fenter, wrth reswm.  Erbyn 1790 cafwyd awdurdod i ddechrau ar y gwaith gan y contractwyr Thomas Dadford & Son. Trwy lafur caib, rhaw a whilber cannoedd o “nafis” erbyn 1798 roedd y “Glamorganshire Canal” wedi cyrraedd y môr. Erbyn 1812 roedd cangen o Aberdâr yn ymuno â’r brif gamlas yn Abercynon, a alwyd yn Navigation i ddechrau. Hwn oedd safle swyddfa’r cwmni  ond sydd erbyn hyn yn dafarn yn dwyn yr un enw.

Felly, dyma newid byd i Gwm Taf a Chwm Cynon.  Ar y gamlas ar hyd ei hoes o dros ganrif a chwarter, ceffylau oedd yn tynnu’r “narrow boats”. Gydag amser ciliodd y diwydiant haearn a thyfodd y cynhyrchiad glo. Hyd yn oed gyda dyfodiad y rheilffyrdd roedd digon o waith i’r gamlas hefyd. Wrth i bwysigrwydd glo ddirywio wedi’r rhyfel byd cyntaf aeth y “Glamorganshire Canal” gyda fe, gan taw cludo nwyddau oedd ei brif waith. Ail adeiladwyd y bencyn yng Nghilfynydd wedi iddo ddymchwel yn 1896 ond digwyddodd yr un peth yn 1915 a phenderfynwyd cau’r gamlas o Bontypridd i fyny. Gyda glo yn llai pwysig, ceisiwyd cario mwy o nwyddau eraill. Roedd blawd yn llwyth bwysig ar gyfer Pontypridd a datblygodd gweithfeydd “patent fuel” yn ardal Blackweir a Gabalfa tan 20au’r ganrif o’r blaen.

 O dipyn i beth ciliodd y defnydd o drafnidiaeth ar y dŵr, â’r diwydiant ar y  glannau. Daeth y gamlas i fod yn lle i blant chwarae a physgota ac yn le i daflu sbwriel. Suddodd y dŵr i ffwrdd, heb neb i gynnal a chadw'r lociau neu glirio’r llwybrau tynnu. Gyda chulni’r cymoedd roedd yn rhaid gwneud defnydd o’r cwrs ei hunan, a dyma le mae’r A470 yn ymddangos. Rhwng Tongwynlais ac Aberfan mae’r ffordd yn cuddio’r hanes hynod hyn, mwy neu lai, yn gyfan gwbl.. Mae un neu ddau le gwerth eu nodi wrth wibio heibio.

 Pan yn ymuno â’r A470 o dan Gastell Coch, wrth deithio i’r gogledd gwelwn ein harwydd cyntaf. Ar y chwith mae hen wal o friciau coch a oedd yn arfer rhedeg wrth ochr y dŵr. Hyd at Nantgarw rydym mwy neu lai ar ben y gamlas pob cam. Dyma oedd hanner ffordd i Ferthyr ac yn gartref i lawer o ddynion y cychod. Doedd neb yn byw arnynt gan mor fyr oedd y daith. Dau ddyn oedd eu hangen: un i arwain y ceffyl  a’r llall i lywio’r cwch. Dyma ein harwydd nesaf yn agosáu. Wrth adael yr A470 am Nantgarw mae to tŷ ar y chwith a chodiad bach yn yr hewl. Dyma dŷ loc y “treble locks” a beth sydd ar ôl o’r codiad o 33 troedfedd y tair loc.

I ddarllenwyr Cwmni  mae Crochendy Nantgarw yn lle cyfarwydd iawn. Roedd y gamlas yn ffordd ddelfrydol o gludo cynnyrch y crochendy. Mae hen bont tyle Nantgarw yn croesi lle arferai’r dŵr fod ar ei ffordd heibio’r Dyffryn Ffrwd, a dros yr hen reilffordd a redai o Gaerffili i Bontypridd cyn cyrraedd Penrhos.

Mae Nantgarw ei hunan wedi diflannu dan ddau gylchdro sy’n ffawd greulon i bentref mor allweddol  o bwysig yn ein hanes, ond ewch i weld y lle: mae digonedd o arwyddion y gamlas ar ôl i’w gweld.