Aneurin Fardd (1822-1904)
Ganwyd Aneurin Jones yn Nhŷ’r Eglwys ym Medwas ar y 27ain o Hydref 1822. Roedd yn fab i John Jones, Shôn fardd neu Siôn Brydydd Gwent, a ddaeth yn felinydd i’r Gelli-groes. Wedi addysg gwell na’r cyffredin, mewn ysgol breifat yng Nghasnewydd, cafodd brentisiaeth i bensaer a pheiriannydd sifil. Dilynodd ei alwedigaeth yng Ngelli-groes, lle aeth i fyw yn 1845 gan gadw tafarn yr Half Way am gyfnod. Cadwai dipyn o dir hefyd wrth gynnal busnes fel adeiladydd, mesurydd a phrisiwr.
Ei gyfoedion oedd Islwyn a Gwilym Ilid. Roedd ef a’r eirdd hyn yn driw i’r traddodiad eisteddfodol a fodolai yn y parthau hyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn naturiol, cefnogai eisteddfodau Gelli-groes a gynhaliwyd o 1847 hyd at 1862. Yno enillodd wobrau am awdlau ar ‘Cyflafan Plant Bethlehem’ ac ‘Uniad Teuluoedd Llanofer a Llanarth’, deuddeg englyn ar ‘Pont Crymlyn’ a ‘Cân o glod i Gwmni Glo Abercarn’!
Ond y gymdeithas fwyaf nodedig yng Ngwent adeg Aneurin, wrth gwrs, oedd Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni. Ymhlith ei gyfansoddiadau yno oedd dau englyn ar y testun ‘Eisteddfa garreg dan dderwen’ a chân ‘Harddwch a defnyddioldeb gwyngalch Cymru’!
Gadawodd am America yn 1864 gyda’i deulu, gan gynnwys ei dad, ac yntau mewn dyledion mawr ar ôl mynd i gyfraith. Dywed Trefin i Islwyn fod yn gymorth ariannol iddo cymaint oedd parch hwnnw i’w athro barddol.
Anodd bu ei fywyd yn America hefyd gan iddo gladdu ei fab a’i wraig gyntaf yno. Ymsefydlodd yn Scranton, Pennsylfania, gan daflu ei hun i mewn i’r bywyd Cymreig yno yn ohebydd i’r New York Herald, ac ysgrifennu erthyglau am Gymru a’i phobl. Collodd ei dad a’i ferch hynaf yno cyn symud ymlaen i Wilksbere lle bu’n aelod amlwg yn achos y Bedyddwyr ac ymlaen i Efrog Newydd yn 1874 lle bu’n byw am bron i bum mlynedd ar hugain. Roedd yn dda ei fyd yno yn gweithio fel arolygydd a garddwr celfydd i Adran Parciau Efrog Newydd a Brooklyn gan fyw mewn fflat saith ystafell gyda phob cyfleustra ar ei gyfer.
Wedi colli’r swydd honno dechreuodd ar ei liwt ei hun gan greu pamffledyn yn hysbysebu ei waith fel pensaer, garddwr a mesurydd. A daeth yn brif arolygwr parciau Brooklyn yn 1889 cyn symud yn 1903 o Efrog Newydd i Los Angeles.
Cafodd gryn fwynhad ym mynwes ei deulu. Priododd ei ddwy ferch hynaf a sefydlu’n fodlon ei byd, tra i’r ferch ifancaf aros yn sengl gan ddangos dawn gerddorol. Roedd nifer o’i gyd Gymry wedi troi yn ei erbyn a chyhuddodd yntau hwy o godi crachen ei broblemau ariannol nôl yn Nghymru.
Cafodd gomisiwn i lunio gerddi yn Los Angeles ond bu ffrae rhwng y noddwr a’i wraig a methiant bu’r prosiect. Yn fuan wedyn aeth Aneurin yn sâl a bu farw yn Los Angeles. Dygwyd ei gorff i’r capel Cymraeg yno a dywedir i dyrfa luosog dalu’r gymwynas olaf iddo. Cyflwynwyd torch gan ‘Y Cambro-American Society’ ac arni’r llythrennau, ‘Gorffwys, Aneurin Fardd’ Canodd englynwyr yr Unod Daletihiau er coffa amdano,
Yr hen arwr, Aneurin – a gwympodd,
Oedd gampwr dilychwin,
Un gwir fawr, a gwnâi gair ei fin
Gyweirio syniad gwerin.
Ond gwyngalchu ei gymeriad yw ei ddisgrifio fel gŵr “dilychwyn” gan mai cythryblus iawn bu ei fywyd.