William Edwards

“Tri Chynnig i Gymro”

Mae William Edwards yn enwog fel yr un a adeiladodd bont enwog Pontypridd, un o ryfeddodau’r byd yn ei dydd am fod ei rhychwant dros afon Taf yn fwy nag unrhyw bont arall ar y pryd.  Ond ni yng Nghwm Rhymni piau’r gŵr yma am mai yma cafodd ei eni ac yma y bu’n weinidog yr efengyl.

Cwblhawyd y bont   ym Mhontypridd, yn y diwedd, yn 1756.  Cafwyd yr arian wrth i Lys Sirol Morgannwg godi £500 oddi wrth  ffermwyr a thirfeddianwyr oedd yn byw yng Nghantref Senghenydd (rhwng y Taf a’r Rhymni) a Chantref Meisgyn, i’r dwyrain o afon Taf).

I ddechrau cododd bont ag iddi dri bwa. Ond y gaeaf cyntaf cafwyd llifogydd anarferol o ffyrnig a lusgodd coed i lawr yn llif yr afon. Wrth i’r coed hyn fethu mynd o dan y bont roeddent yn ffurfio cronfa a phwysedd  cynyddol y dŵr yn dymchwel y bont.  Doedd dim byd amdani wedyn ond codi pont un bwa fel y gallai popeth lifo’n hwylus o tani. Gwnaeth hyn yn ddigon llwyddiannus ond, yn anffodus, profodd yr ochrau yn rhy drwm gan wasgu ar y canol, a dymchwel gwnaeth yr ail bont hefyd.

Nid un i roi’r ffidil yn y to mo William Edwards a dyma pryd y lluniodd dri thwll ar y naill ochr a’r llall. Cred llawer mai er mwyn caniatáu i’r dŵr lifo drwodd oedd hyn. Ond dyw llif yr afon byth yn cyrraedd mor uchel â’r tyllau! Nage, nid er mwyn gadael y dŵr i lifo y crëwyd y rhain ond er mwyn gwneud y bwtresi’n  ysgafnach a dywedwyd i hyn leihau’r pwysau’r bont, o ryw gan dunnell ac mae’r tyllau silindraidd hyn â diamedr  o dair, chwech a naw troedfedd.  Y trydydd cais, felly,  fu’n llwyddiannus.  

Yn wir ni allai fforddio rhoi’r ffidil yn y to am na fyddai’n cael ei dalu am ei waith hyd nes iddo lwyddo. Roedd  William Edwards wedi derbyn £500 gan Lys Sirol Morgannwg i adeiladu’r bont  ond ar  yr amod fod hon yn sefyll am o leiaf saith mlynedd. Awgrymir fod awdurdodau eraill wedi talu mwy na ddylent  i Edwards am ei waith er mwyn iddo gael y modd i ariannu prosiect Pontypridd, er enghraifft pont Brynbuga (Usk). 

Roedd e’n ŵr cefnog ond, er hynny, mynnai dderbyn cyflog am fod yn weinidog yn y Groes-wen am y teimlai na ddylai’r aelodau goleddu’r syniad fod gweinidog yn rhywun oedd ar gael yn rhad ac am ddim. Yna rhoddai yntau’r cyflog hwnnw tuag at achosion teyrngarol. Ceir cofeb hardd iddo yng Ngroes-wen ond fe newidiodd yr aelodau enw ei fferm ar gyfer o gofeb o Bryn Tail i Bryn Haul - enw llawer iawn mwy parchus!

Dywedwyd iddo ddysgu’i grefft drwy adeiladu a chywiro waliau ac adeiladu ysguboriau yn ardal Eglwys Ilan. Ond mae’n hysbys iddo hefyd fod yn gysylltiedig â phont  Beaufort yn Nhreforys a phont Pontardawe.  Clywodd Catrin Fawr (Catherine the Great) am ei orchestion a cheisiodd ei berswadio i ddod draw i Rwsia fel rhan o’i hymgyrch hithau i foderneiddio’r wlad. Gwnaed lluniau di-ben-draw o’r bont gan gynnwys rhai gan arlunwyr mor enwog â J.M.W. Turner a’r Cymro Richard Wilson, tad paentwyr tirluniau.    

Ond roedd llawer iawn mwy nag adeiladu ar feddwl William Edwards. Roedd yn ddyn mawr am y pethau ysbrydol ac fe arweiniodd gynulleidfa allan o eglwys Loegr er mwyn sefydlu achos y Methodistiaid Calfinaidd yn y Watford cyn i honno a’r capel yn y Groes-wen ddod yn gapeli’r Annibynwyr.

Fe’i claddwyd yn Eglwys Ilan am nad oedd mynwent gan yr anghydffurfwyr bryd hynny. Teimlwyd i berson y  plwyf  wneud yn fach o ddyn gwirioneddol fawr. Fel canlyniad fe benderfynodd yr Annibynwyr brynu’r cae y tu ôl i gapel y Groes-wen i sefydlu mynwent un, ym mhen y rhawg, a ddaeth yn enwog fel “The Westminster Abbey of Wales” am fod cymaint o bobol adnabyddus wedi’u claddu yno.

Comisiynodd gor-ŵyr William Edwards, Dr W.T.Edwards, Sir William Gascombe John, R.A. i wneud tabled efydd o’i dad-cu. Dadorchuddiwyd hwn yn 1906 y tu ôl i’r pulpud yn y Groeswen â’r geiriau,   

“Adeiladydd mewn dau fyd.”