Mae Menter Iaith Sir Caerffili yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau wythnosol ac yn ystod y gwyliau ysgol ar gyfer rhieni a'u plant bach cyn-ysgol. Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys cyfle i ddysgu mwy am magu plant yn ddwyieithog, sut i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'ch plant a beth yw'r cyfleoedd eraill yn lleol i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog. Ceir gwybodaeth bellach am Cylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi y Sir ar wefan Mudiad Meithrin.  

Clwb Miri

Clwb wythnosol i rieni a'u plant 0-3 oed i chwarae, cymdeithasu a chael hwyl wrth ddefnyddio'r Gymraeg.

Pris: £1