Swydd Newydd: Swyddog Hyrwyddo a Marchnata Cymraeg i Bawb - Rhanbarth y De Ddwyrain
Price: Free
Cyflog: £28,000-£32,000
Oriau gwaith: Llawn amser – 37 awr
Lleoliad: Gweithio hyblyg o adref ac o swyddfa Menter Iaith Sir Caerffili, Porth Tredomen, Ystrad Mynach, Caerffili, CF82 7EH
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Marchnata creadigol a threfnus iawn i gefnogi Partneriaeth Cymraeg i Bawb. Rôl y Bartneriaeth yw hyrwyddo addysg Gymraeg ar draws 10 awdurdod lleol y De Ddwyrain. Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol cyfathrebu dwyieithog gymryd yr awenau wrth hyrwyddo ein gwaith ar draws gwahanol lwyfannau digidol.
Byddwch yn gyfrifol am y gwaith dyddiol o gynllunio, creu a rhannu cynnwys ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Cymraeg i Bawb (gan gynnwys YouTube, Facebook, X/Twitter, Instagram, TikTok, Bluesky, ac eraill fel y bo'n berthnasol) yn Gymraeg a Saesneg.
Byddwch hefyd yn helpu i gynnal a diweddaru cynnwys ein gwefan yn rheolaidd, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn hygyrch, yn ddiddorol ac yn gyfredol.
Yn ogystal, byddwch yn cynorthwyo'r Bartneriaeth i ddatblygu a pharatoi cynigion cyllid, gan helpu i sicrhau twf ac effaith barhaus gweithgareddau Cymraeg i Bawb.
Dyddiad cau: 5:00yh ar Fehefin 19eg
Cyfweliadau: Mehefin 24ain
I wneud cais:
I gael rhagor o wybodaeth a swydd ddisgrifiad neu sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â: Lowri Jones – 01443 820913/lowrijones@mentercaerffili.cymru
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol, gan egluro sut rydych chi'n bodloni manyleb y person, i: lowrijones@mentercaerffili.cymru
01443 820913
www.mentercaerffili.cymru
FFILIFFEST 2025
Price: Free
Sadyrnau Siarad
Come and meet other Welsh speakers and learners in a friendly and informal atmosphere.
Price: Free
Walking Club
Come along and enjoy different walks with other Welsh learners and speakers.
Price: Free