Swydd Newydd: Swyddog Hyrwyddo a Marchnata Cymraeg i Bawb - Rhanbarth y De Ddwyrain

Pris: Am Ddim

Cyflog: £28,000-£32,000

Oriau gwaith: Llawn amser – 37 awr

Lleoliad: Gweithio hyblyg o adref ac o swyddfa Menter Iaith Sir Caerffili, Porth Tredomen, Ystrad Mynach, Caerffili, CF82 7EH

Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Marchnata creadigol a threfnus iawn i gefnogi Partneriaeth Cymraeg i Bawb. Rôl y Bartneriaeth yw hyrwyddo addysg Gymraeg ar draws 10 awdurdod lleol y De Ddwyrain. Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol cyfathrebu dwyieithog gymryd yr awenau wrth hyrwyddo ein gwaith ar draws gwahanol lwyfannau digidol. 

Byddwch yn gyfrifol am y gwaith dyddiol o gynllunio, creu a rhannu cynnwys ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Cymraeg i Bawb (gan gynnwys YouTube, Facebook, X/Twitter, Instagram, TikTok, Bluesky, ac eraill fel y bo'n berthnasol) yn Gymraeg a Saesneg. 

Byddwch hefyd yn helpu i gynnal a diweddaru cynnwys ein gwefan yn rheolaidd, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn hygyrch, yn ddiddorol ac yn gyfredol. 

Yn ogystal, byddwch yn cynorthwyo'r Bartneriaeth i ddatblygu a pharatoi cynigion cyllid, gan helpu i sicrhau twf ac effaith barhaus gweithgareddau Cymraeg i Bawb.

Dyddiad cau: 5:00yh ar Fehefin 19eg

Cyfweliadau: Mehefin 24ain

I wneud cais:

I gael rhagor o wybodaeth a swydd ddisgrifiad neu sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â:  Lowri Jones – 01443 820913/lowrijones@mentercaerffili.cymru

Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol, gan egluro sut rydych chi'n bodloni manyleb y person, i: lowrijones@mentercaerffili.cymru

01443 820913 

www.mentercaerffili.cymru

 

Sadwrn Siarad Ionawr

Pris: Am Ddim

Gwen Yr Arth Wen 31/03/2026

Mae Gwen, arth wen bryderus, yn deffro ar gap iâ wedi torri, gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o’i theulu. Ar ei thaith beryglus drwy Gefnfor yr Arctig, bydd yn rhaid iddi ddod o hyd i’w dewrder, yn ogystal â’i ffordd adref.

Gwen, an anxious polar bear, wakes up on a broken icecap hundreds of miles away from her family. On her perilous journey through the Arctic Ocean, she will have to find her courage, as well as her way home.

Pris: £4

Clwb Cerdded

Dewch i fwynhau teithiau cerdded amrywiol bob bore Mercher gyda dysgwyr a siaradwyr Cymraeg eraill.

Pris: Am Ddim

Clwb Miri

Clwb wythnosol i rieni a'u plant 0-3 oed i chwarae, cymdeithasu a chael hwyl wrth ddefnyddio'r Gymraeg.

Pris: £1

Sesiynau Sgwrs

Cyfle i gwrdd a siaradwyr a dysgwyr Cymraeg eraill - croeso cynnes i bawb

Pris: Am Ddim

Clwb Darllen

Clwb darllen misol i ddysgwyr lefel canolradd ac uwch.

Pris: Am Ddim